
Ddiwedd mis Awst, dechreuodd pennod newydd ym Mhont Croesor wrth i’r gwaith ddechrau ar y prosiect gwella cynefinoedd. Mae Matt o Andy Kehoe Countryside Ltd eisoes wedi cymryd camau breision, ac mae’r cynlluniau ar gyfer cynefin byd natur cyfoethocach a mwy amrywiol yn dechrau siapio.
Mae’r llyn bywyd gwyllt newydd bellach wedi’i gwblhau. Bydd yn cynnig cynefin gwerthfawr i amffibiaid, pryfed ac ystod eang o fywyd gwyllt arall. Ddeuddydd yn unig wedi iddo gael ei gwblhau, llwyddodd leinin y llyn i ddal dŵr gorlif, ac mae’r pryfed dŵr cyntaf eisoes wedi ymddangos. Tua diwedd Awst, torrwyd glaswellt y dolydd, tynnu’r toriadau a pharatoi’r tir ar gyfer gwair gwyrdd. Wedyn heuwyd cymysgedd o hadau blodau gwyllt, gan osod sylfeini’r dolydd blodau gwyllt newydd. Yn ddiweddarach yn yr hydref, caiff bron i 300 o flodau gwyllt brodorol eu plannu i ychwanegu mwy fyth o amrywiaeth i’r safle.
Mae ein camera ar yr afon yn rhoi lluniau gwych o’r dolydd a’r llyn bywyd gwyllt, ond mae’r elfen is-goch i gael lluniau yn y nos wedi nogio. Rydym yn gweithio i ddatrys y broblem ac fe gewch chi ddiweddariad cyn bo hir.
Ym mis Tachwedd, bydd ein gwirfoddolwyr yn plannu gwrych o goed brodorol. Bydd Ian a Sion Sturrock yn dod atom hefyd i drafod y detholiad arbennig o goed ffrwythau traddodiadol maen nhw wedi’u dewis ar gyfer y safle ac i roi cyngor am y ffordd orau i’w plannu a gofalu amdanynt.
Dim ond y dechrau fydd hyn. Dros y blynyddoedd nesaf, y gobaith yw y bydd y safle’n datblygu’n fosaig cyfoethog o ddolydd blodau gwyllt, coed a gwrychoedd, gan gynnig bwyd, lloches a chyfleon bridio i beillwyr, adar, pryfed a mamaliaid.
Bydd natur yn cymryd amser i ymsefydlu, ond rydym yn edrych ymlaen at wylio datblygiad y safle ac at rannu pob cam ohono gyda chi.
Dyma ddarn bach o dir efallai, ond mae ganddo’r potensial i ddod yn hafan bwysig i fywyd gwyllt lleol.


