Roedd dydd Gwener 4 Medi 2026 yn ddiwrnod arbennig a chofiadwy yng Nghuddfan John Parry, ar safle Gweilch Glaslyn, wrth i’r naturiaethwr a’r darlledwr adnabyddus Iolo Williams, ddadorchuddio cofeb wenithfaen i gofio Ted Breeze Jones, yr athro, y gwyliwr adar, y ffotograffydd a’r awdur poblogaidd.

Roedd Ted, yn gyntaf oll, yn athro cynradd, a hynny yn Ysgol y Bechgyn, Maenofferen ac wedyn yn Ysgol Manod, Blaenau Ffestiniog. Trwy ei addysgu a’i gyfraniad rhyfeddol i fyd natur yn y Gymraeg, ysbrydolodd genedlaethau o bobl i gymryd diddordeb yn y bywyd gwyllt o’u cwmpas.

Ei angerdd mawr oedd ffotograffiaeth, ac ymddangosodd ei ddelweddau o fyd natur, yn enwedig adar, mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Cymru’r Plant, Birds Monthly Illustrated a’r Country Times. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd, gan deithio ledled Cymru gyda sioeau sleidiau yn cynnwys rhai o adar prinnaf y wlad, gan gynnwys y frân goesgoch. Roedd hefyd yn ddarlledwr rheolaidd ar y rhaglen radio boblogaidd Seiat Byd Natur, ochr yn ochr â’i ffrind, T. G. Walker.

Roedd cyfeillgarwch Ted â’r artist enwog Charles Tunnicliffe yn rhan nodedig arall o’i fywyd. Trwy ei waith gyda Tunnicliffe, byddai Ted yn tynnu lluniau o baentiadau’r artist cyn iddynt gael eu gwerthu.

Rhwng 1966 a 1997, cyhoeddodd Ted tua 30 o lyfrau darluniadol a chyfrannodd erthyglau di-ri i gylchgronau a chyhoeddiadau. Roedd ei gyfraniad i ornitholeg Gymraeg yn arbennig o arwyddocaol. Yn 1974, gan gydweithio â Peter Hope Jones, cyhoeddwyd llyfr o enwau Cymraeg  adar — cyfraniad pwysig o safbwynt y datblygiad a’r defnydd o derminoleg adar yn y Gymraeg.

Bu farw Ted yn 1997, ond mi barhaodd ei ddylanwad. Ysbrydolodd ei angerdd – am adar a’i awydd i fwynhau a rhannu’r diddordeb hwnnw drwy’r Gymraeg  – grŵp o ffrindiau o’r un anian i sefydlu Cymdeithas Ted Breeze Jones.

Pan ddaeth gweithgareddau’r Gymdeithas i ben yn 2025, rhoddwyd yr arian oedd yn weddill i Fywyd Gwyllt Glaslyn. Cydweithiodd yr Elusen a’r Gymdeithas i greu cofeb wenithfaen a saif ar lan Afon Glaslyn, yn wynebu Cnicht, Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, y dirwedd a’r amgylchedd naturiol oedd wrth galon Ted.

Yn bresennol yn y dadorchuddiad roedd cyn-aelodau o Gymdeithas Ted, sef pobl a rannodd ei frwdfrydedd am adar a bywyd gwyllt trwy’r iaith Gymraeg, ynghyd â rhai o gyn-ddisgyblion Ted, gan wneud yr achlysur yn arbennig o ystyrlon.

Mae’r gofeb yn deyrnged addas a pharhaol i ddyn a ysbrydolodd genedlaethau i werthfawrogi’r byd naturiol o’n cwmpas. Mae ei etifeddiaeth yn fyw yn yr adar rydyn ni’n eu gwylio, y cefn gwlad rydyn ni’n ei werthfawrogi, yr enwau Cymraeg rydyn ni’n eu defnyddio ar gyfer yr adar ac yn y bobl a ysbrydolwyd ganddo.