Mae Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife yn dibynnu’n llwyr ar gael gwirfoddolwyr i helpu i redeg y safle o ddydd i ddydd; yn wir, byddai’n amhosib i ni weithredu hebddyn nhw.
Mae arnom angen gwirfoddolwyr i warchod y gweilch pan fydd yna wyau yn y nyth. Mae arnom angen gwirfoddolwyr hefyd yn y ganolfan wylio i ddehongli’r bywyd gwyllt a ddangosir ar y sgriniau, i roi gwybod i bobl am fywyd gwyllt yr ardal, ac i ddangos lleoliad y nyth iddyn nhw drwy’r telesgopau sydd yn y guddfan.
Gall gwirfoddolwyr chwarae rhan allweddol hefyd mewn perthynas â gweinyddu, codi arian, marchnata ac ati – mae’r rhestr yn ddiderfyn. Os gallwch ein helpu yn unrhyw un o’r meysydd hyn, byddem wrth ein bodd clywed gennych.
e-bost i info@glaslynwildlife.co.uk
