Beth ydi oed Mrs G?
Credwn ei bod hi o leiaf 22 mlwydd oed.
Ble cafodd hi ei deor?
Does dim modrwy arni felly wyddon ni ddim ble cafodd hi ei deor.
Pam mae hi’n cael ei galw yn Mrs G?
Gan nad oedd ganddi fodrwy, cafodd yr enw Mrs G, sef Mrs Glaslyn
I ble mae Mrs G yn mudo?
Wyddon ni ddim. Mae’r rhan fwyaf o weilch y pysgod gwledydd Prydain yn mudo i Orllewin Affrica – Senegal, Gambia, a nifer llai yn mudo i Iberia – Sbaen, Portiwgal.
Gan gymryd ei bod hi’n mudo i Orllewin Affrica bob blwyddyn, sef tua 3000 milltir bob ffordd, bydd hi wedi teithio rhyw 117,000 o filltiroedd yn ystod y blynyddoedd hynny. Mae hynny’n cyfateb i deithio 4.5 gwaith o gwmpas y byd!
A fydd yr adar yn mudo gyda’i gilydd?
Wrth fudo bydd gweilch yn teithio ar eu pennau eu hunain i gyrraedd eu tiroedd gaeafu filoedd lawer o filltiroedd i ffwrdd. Ar ôl treulio’r gaeaf ar wahân, mi fyddan nhw’n ailymuno â’r un cymar wrth ddychwelyd i’r nyth bob gwanwyn.
Sawl cyw mae Mrs G wedi eu cael?
Hyd at 2022, roedd 44 o’i chywion wedi gadael y nyth yn llwyddiannus
Sawl partner mae hi wedi’u cael?
Dau. Aderyn modrwyog genedigol o’r Alban, Ocr 11(98), oedd y cyntaf. Roedd o wedi ymgartrefu yn Rutland. Dechreuodd fridio gyda Mrs G yn 2004 ond ddaeth o ddim yn ôl yn 2015. Daeth Aran yn bartner newydd iddi y flwyddyn honno ac erbyn 2022 maen nhw wedi magu 18 o gywion yn llwyddiannus efo’i gilydd.
Beth ydi oed Aran?
Does gan Aran ddim modrwy ond credir ei fod tua deg oed.
Pam mae’n cael ei alw’n Aran?
Pan gyrhaeddodd Ddyffryn Glaslyn am y tro cyntaf, byddai’n aml yn hedfan i gyfeiriad yr Aran, mynydd cyfagos yn Eryri
I ble mae o’n mudo?
Wyddon ni ddim. Mae’r rhan fwyaf o weilch y pysgod gwledydd Prydain yn mudo i Orllewin Affrica – Senegal, Gambia, a nifer llai yn mudo i Iberia – Sbaen, Portiwgal.
A ydi’r cywion yn dychwelyd i Ddyffryn Glaslyn?
Gwyddom fod saith o gywion Mrs G a phump o’u cywion hwythau wedi magu cywion ym Mhrydain, ond nid yn Nyffryn Glaslyn. Mae’r cywion wedi magu yng Nghoedwig Kielder, yr Alban, Ardal y Llynnoedd a Swydd Efrog.
Beth mae gweilch y pysgod yn ei fwyta?
Aderyn ysglyfaethus sy’n bwyta pysgod ydi’r gwalch, ac mae gweilch Glaslyn yn pysgota wrth y Cob ym Mhorthmadog, ac yn Aber Dwyryd a llynnoedd y mynyddoedd.
Pa bysgod maen nhw’n eu dal?
Brithyllod, lledod mwd, hyrddod llwyd, brithyllod seithliw, sewin a chornbigau.
Pwy adeiladodd nyth Glaslyn?
Mrs G a’i phartner cyntaf 11(98) a adeiladodd y nyth yn 2003/4. Yn 2004, cafodd y nyth ei chwythu i lawr mewn storm gan ladd eu dau gyw cyntaf. Y gaeaf hwnnw cafodd y nyth ei hailadeiladu a’i chryfhau gan wirfoddolwyr a gwneir gwaith cynnal a chadw arno bob blwyddyn cyn i’r adar ddychwelyd yn y gwanwyn.
Pa mor bell yw’r nyth o’r Ganolfan Ymwelwyr?
Tua milltir a chwarter fel yr hed y gwalch
Pa mor dal yw’r goeden lle mae’r nyth?
Pinwydden arian 80 troedfedd ydi hi
Faint o nythod gweilch sydd ’na yn Nyffryn Glaslyn?
Pedair, yn cynnwys nyth Glaslyn, pob un â’i phâr bridio ei hun. Mae nyth Pont Croesor yn agos at y Ganolfan Ymwelwyr ac mae’r pâr sy’n nythu yno, Z2/Aeron (2017) o Ddyfi a Glas 014 (2018) o Poole Harbour, wedi bridio yno’n llwyddiannus ers 2021.
Mae’r trydedd nyth mewn lleoliad dienw yn y Dyffryn lle gwnaeth un arall o adar Dyfi, KS6/Dinas (2018) a’r iâr Glas 019 (2019) o Poole Harbour fridio am y tro cyntaf 2022. Y pedwerydd nyth, mewn lleoliad dienw arall, yw lle mae aderyn Dyfi arall Z1/Tegid (2016) yn bridio gyda benyw difodrwy.
Faint o nythod gweilch y pysgod sydd ’na yng Nghymru?
Erbyn hyn rydym yn gwybod am naw nyth gweilch y pysgod yng Nghymru: pedwar yn Nyffryn Glaslyn, un yng Nghors Dyfi ger Machynlleth, dau wrth Lyn Clywedog, ger Llanidloes, un ar lan Llyn Brenig ac un arall ar dir preifat yn Eryri.
