
Rydan ni’n annog ein gwirfoddolwyr i ddal i ddatblygu eu gwybodaeth a dysgu mwy am fywyd gwyllt Dyffryn Glaslyn. Yn ddiweddar, fe gynhalion ni noson addysg ystlumod yng Nghuddfan John Parry i’n gwirfoddolwyr. Cawsom gyflwyniad diddorol am ystlumod Prydain gan yr ecolegwyr Tanya Cobb a Jack Halpin cyn gadael y guddfan i brofi ein synwyryddion ystlumod.
Llwyddodd y grŵp i wylio’r ystlumod niferus oedd yn hedfan dros yr afon ac o flaen y Ganolfan Ymwelwyr gan ddefnyddio offer arbenigol Tanya a Jack. Gyda chamera thermol roedden ni’n gallu gweld ystlumod dŵr yn hedfan dros yr afon yn ogystal â chlywed eu galwadau ecoleoli anhygoel ar y synwyryddion.
Cofnodwyd cyfanswm o 965 o alwadau gan saith rhywogaeth o ystlumod:
- ystlum lleiaf
- ystlum lleiaf soprano (dros 900 o alwadau gan sopranos – roedden nhw’n clebran go iawn wrth hedfan o gwmpas y maes parcio i’r anabl!)
- ystlum y dŵr
- ystlum barfog/Brandt (does dim modd gwahaniaethu rhwng galwadau’r ddwy rywogaeth)
- ystlum Natterer
- ystlum hirglust
- ystlum pedol lleiaf
Diolch i Tanya a Jack am roi cipolwg diddorol i ni ar rai o’r creaduriaid gwyllt sy’n byw a bod yn Nyffryn Glaslyn wedi iddi nosi ac am roi noson gofiadwy iawn i bawb fu’n bresennol.

