2023

Wedi bod yn magu cywion am 19 tymor yn olynol ar nyth Glaslyn, yn 2023 methodd Mrs G â dychwelyd. Cyrhaeddodd Aran yn ôl i’r nyth ar Ebrill 3 ac aros yn amyneddgar am walches. Cafodd ambell ymwelydd yn ystod yr wythnosau cyntaf, gan gynnwys gwalchesi o nythod cyfagos. Ar Ebrill 14 daeth gwalches ddifodrwy ato, un roedden ni wedi’i gweld ambell waith ers Ebrill 3. Er nad oedd hi i’w gweld yn cymryd at Aran ar y dechrau, fe ddechreuodd hi ymateb i’w sylw ac yn raddol fe fagodd perthynas rhyngddynt. Ar Ebrill 24 dyma ni’n ei henwi’n swyddogol ar ôl yr Elen, mynydd yn y Carneddau yn Eryri. Dathlodd Elen ei bedyddio swyddogol mewn steil trwy ddodwy ei hwy cyntaf er syndod mawr i ni i gyd! Dilynodd ail wy ar Ebrill 27.

Deorodd y cyw cyntaf ar Fai 31, a’r ail yn agos wrth ei gwt ar 1 Mehefin. Cawsant eu modrwyo gan yr arbenigwr profiadol ar adar ysglyfaethus Jimmi Hill ar Orffennaf 4; barnwyd mai dau gyw gwryw oedden nhw. Rhoddwyd modrwyau Glas OH1 i’r hynaf a Glas OH2 i’r ieuengaf. Cododd OH1 o’r nyth ar Orffennaf 20 yn 50 diwrnod oed ac ehedodd OH2 am y tro cyntaf ar Orffennaf 23 yn 52 diwrnod oed.

Gadawodd y cyw ieuengaf OH2 ar Fedi 4 yn 95 diwrnod oed, ac OH1 i’w ganlyn ar Fedi 5 yn 97 diwrnod oed. Gwelsom Elen ddiwethaf ar Awst 24, ond arhosodd Aran yn Nyffryn Glaslyn tan Fedi 8.

Cawsom y newyddion gwych gan Joanna Dailey bod KC4 (Glaslyn 2020) wedi’i gweld yn tresmasu yn Nyth Kielder 2 ar Ebrill 23. Roedd Joanna wedi gweld KC4 yn Senegal y ddau aeaf blaenorol, ond dyma’r tro cyntaf iddi gael ei gweld yn ôl ym Mhrydain. Roedd gweld KC4 yng Nghoedwig Kielder yn arbennig iawn, gan fod dau walch o Laslyn a fu’n nythu’n llwyddiannus iawn yn y goedwig am sawl blwyddyn, sef Melyn 37 (2005) a Gwyn YA (2007), ill dau wedi methu â dychwelyd yn 2023.

Ymwelydd arbennig â nyth Glaslyn oedd Glas 414 (Cumbria 2020), gan ei bod yn wyres i Mrs G. Ei thad oedd Glas 9C (Glaslyn 2014), yr hynaf o nythaid olaf ein gwalch gwreiddiol 11(98). Gwnaeth 414 ddau ymweliad â’r nyth, ar Ebrill 22 a Mai 12.

2024

Cyrhaeddodd Elen yn ôl yn gynnar i nyth Glaslyn ar Fawrth 26. Ar ôl disgwyl yn ofer am bron i 24 awr i Aran ymddangos, penderfynodd Elen ddiflannu eto! Daeth Aran yn ôl i nyth wag ar Fawrth 30, er y daeth gwalches ifanc Glas 372 (trawsleoliad Harbwr Poole 2021) i ymuno ag o y diwrnod canlynol. Daeth 372 i weld Aran bob dydd tan Ebrill 4, yn ogystal â chadw ei llygad ar nyth Llyn Brenig, lle roedd y gwalch preswyl LJ2 yn aros am ddychweliad ei walches LM6. Yn anffodus, methodd LM6 â dychwelyd, ond parodd 372 ag LJ2 ac fe fagon nhw ddau gyw gyda’i gilydd yn llwyddiannus.

Yn fuan ar ôl i ni weld 372 ddiwethaf ar Ebrill 4, aeth Aran allan i bysgota, gan ddychwelyd at y glwyd toc gyda siwin. Eiliadau’n ddiweddarach dechreuodd fantellu, a glaniodd Elen yn dawel wrth ei ymyl â hyrddyn wedi’i rhannol fwyta yn ei chrafangau. Gyda’i gilydd eto, parhaodd y ddau i fwyta’u cinio.

Dodwyodd Elen ei hwy cyntaf ar Ebrill 22, ail wy ar Ebrill 25 a thrydydd ar Ebrill 28. Deorodd y cyw cyntaf ar Fai 28, yr ail ar Fai 30 a’r trydydd ar Fehefin 2. Er inni weld rhywfaint o ymgiprys rhwng y ddau gyw hynaf, roedd Aran yn darparu’n dda ar eu cyfer ac yn y pen draw fe setlodd pethau. Cawsant eu modrwyo gan Jimmi Hill ar Orffennaf 2. Rhoddwyd modrwy Glas 6M8 ar y cyw hynaf a Glas 6M7 ar y cyw canol; roedd y ddau’n pwyso 1790g a barnwyd mai benyw oedden nhw. Cafodd y cyw ieuengaf fodrwy Glas 6M9 a’r gred oedd mai gwryw oedd o, yn pwyso 1380g.

Cododd y cyw hynaf 6M8 o’r nyth ar Orffennaf 21 yn 54 diwrnod oed, a 6M7 yn ei chanlyn ar Orffennaf 24 yn 55 diwrnod oed. Lai na dwy awr wedyn dilynwyd honno gan y cyw ieuengaf 6M9, yn codi o’r nyth yn 52 diwrnod oed.

Ar Fai 1 cafodd Elen ac Aran syrpréis annisgwyl pan ddychwelodd Glas 498 (Glaslyn 2022) i’w nyth genedigol. Dim ond y trydydd tro oedd hyn i aderyn o Laslyn gael ei gofnodi’n ôl yng Nghymru, felly roedd ei weld eto yn foment gyffrous i ni. Cafodd ei gofnodi hefyd yn Llyn Brenig ar Fehefin 26. Wedyn cafwyd mwy o newyddion cyffrous ar Fehefin 19, pan darodd ei frawd Glas 497 (Glaslyn 2022) ei big i mewn yn nyth Dyfi. Cafodd yntau ei gofnodi yn nyth Dyffryn Wysg ar Awst 6 hefyd.

Ddydd Sadwrn Gorffennaf 28 gwthiodd KC6/Teifi (Dyfi 2020) ei big i mewn i nyth Glaslyn. Dyma fab ieuengaf 3J/Telyn ac Idris yn eu tymor magu cyntaf gyda’i gilydd, ar ôl i’r ceiliog gwreiddiol, Monty, fethu â dychwelyd yn 2020. Cafodd ei gofnodi yn Nyffryn Glaslyn sawl gwaith wedyn, a byddai hynny’n profi’n arwyddocaol yn 2025.

Gwelsom Elen ddiwethaf ar Awst 26, pan ddaeth â macrell heb ben i 6M7. Awst 30 oedd y tro diwethaf inni gofnodi’r cyw canol 6M7. Oherwydd colli trydan i nyth Glaslyn ar Awst 31, roedd hi’n anodd gwybod yn union pryd y mudodd 6M8 a 6M9, ond cafodd y ddau eu cofnodi eiliadau cyn i’r camerâu ddiffodd a dim ond dau gyw a welson ni ar ôl Awst 30. Ni welwyd yr un o’r ddau eto ar ôl bore Medi 6. Gwelsom Aran am y tro olaf y diwrnod hwnnw hefyd.

2025

Dychwelodd Elen i nyth Glaslyn yn gynt nag erioed ar Fawrth 22. Yn wahanol i 2024, pan ddiflannodd am sawl diwrnod ar ôl dychwelyd gyntaf i nyth Glaslyn, arhosodd Elen o amgylch tiriogaeth Glaslyn wrth ddisgwyl i Aran ymuno â hi. Ond ar Ebrill 2 ymddangosodd gwalch ifanc arall, a oedd wedi ymweld â’r dyffryn sawl gwaith yn ystod 2024, sef KC6/Teifi (Dyfi 2020). Erbyn Ebrill 11, doedd dim golwg o Aran o hyd ac roedd ein gobeithion y byddai’n dychwelyd yn dechrau pylu, ond o leiaf roedd KC6/Teifi ac Elen yn dechrau ffurfio cwlwm.

Yna, yn oriau mân Ebrill 12 glaniodd Aran ar y nyth! A KC6/Teifi wedi ffurfio perthynas ag Elen ers deg diwrnod, doedd o ddim yn debygol o ildio’i hawl i’r nyth yn hawdd. Serch hynny, ar ôl ffrae fer rhwng y ddau geiliog, dyna a ddigwyddodd i ddechrau. Y diwrnod canlynol roedd Aran ac Elen i’w gweld yn cyd-dynnu’n dda, er gwaethaf ymweliadau gan weilch diarth. Ar Ebrill 13 digwyddodd yr annisgwyl gan  i Elen ddodwy wy. Doedd Elen nac Aran ddim i’w gweld yn or-awyddus i ori’r wy fel y byddem wedi disgwyl a gwnaeth Aran ymdrechion i’w guddio. Er i Elen ei ddadorchuddio i ddechrau, fore trannoeth fe gladdodd hi’r wy dan ddeunydd nythu. Serch hynny, fe ddodwywyd ail wy ar Ebrill 16. Ond yn dilyn tresmasu parhaus gan o leiaf bedwar gwalch gwahanol, erbyn Ebrill 18 roedd KC6/Teifi wedi ailgipio’r nyth oddi ar Aran.

Dodwywyd trydydd wy ar Ebrill 19, ond ar Ebrill 21 dechreuodd KC6/Teifi grafu’r nyth mewn ymgais i dorri neu daflu’r wyau. Erbyn diwedd y dydd roedd yr ail a’r trydydd wyau wedi’u torri ac roedd yr wy cyntaf yn gorwedd ar ochr y nyth. Ychydig wedi hanner dydd ar Ebrill 22 dechreuodd Aran blymio’n ymosodol at nyth Glaslyn, gan orfodi KC6/Teifi i godi o’r nyth a pharhau â’r ffrae yn rhywle arall. Cafwyd mwy o ddrama ar Ebrill 23 pan ddechreuodd Aran gyrch arall i symud KC6/Teifi allan o nyth Glaslyn. Ar un pwynt roedd pump o weilch yn cylchu uwchben y nyth. Ond fel yr oedden ni wedi sylwi o’r blaen, nid ffrae ddwyffordd oedd hon. Erbyn amser cinio roedd Aran wedi cipio’r nyth yn ôl.  Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw dodwyodd Elen ei phedwerydd wy. Wnâi Aran ddim derbyn yr wy, gan wrthod ceisio’i ori. Er inni sylwi ar weilch diarth yn dal i dresmasu am rai dyddiau, roedd pethau’n teimlo’n llawer mwy sefydlog, ond wrth i ddiwedd y mis agosáu cafwyd mwy a mwy o herio a dechreuodd KC6/Teifi geisio cipio’r nyth unwaith eto.

Daeth y frwydr olaf ar Fai 2, pan geisiodd Aran a KC6/Teifi ill dau lanio ar y nyth ar doriad gwawr. Clywyd sgrechiadau rhybuddiol gan Elen wrth i’r ddau geiliog gylchdroi yn yr awyr uwchben y nyth, gan geisio hawlio’r diriogaeth. Yn hwyr yn y bore daeth yn amlwg fod o leiaf dri gwalch heb gysylltiad yn herio Aran am y nyth. Tua amser te, aeth KC6/Teifi heibio i nyth Glaslyn gyda physgodyn, gan aros yn yr ardal nes i’r haul fachlud. Y bore trannoeth daeth i’r nyth heb ei herio ac yn ddiweddarach daeth â physgodyn i Elen. Dechreuodd honno golli diddordeb mewn gori’r wy oedd ar ôl, a’r diwrnod canlynol fe’i claddwyd yn y nyth.

Arhosodd Aran o gwmpas Dyffryn Glaslyn am weddill y tymor, ond wnaeth o ddim ceisio ailgipio nyth Glaslyn eto. Ac yntau wedi cyrraedd mor hwyr, doedd Aran erioed wedi cael amser i ddod ato’i hun yn llawn wedi ei daith hir fel y byddai fel arfer. Yn dilyn yr heriau a’r brwydrau cyson, tybed a sylweddolodd nad oedd yn ddigon iach o gorff i adennill y nyth, a’i fod wedi penderfynu felly mai’r strategaeth orau er mwyn ei warchod ei hun oedd encilio a gorffwys. Fe’i gwelson ni o yng nghyffiniau Pont Croesor ar sawl achlysur ac erbyn diwedd y tymor roedd i’w weld yn ffit ac mewn hwyliau da. Y tro diwethaf inni ei weld oedd noson Medi 5 cyn iddo hedfan am yr aber.

Arhosodd Elen a KC6/Teifi gyda’i gilydd am weddill y tymor, gan amddiffyn nyth Glaslyn ac ychwanegu deunydd nythu ato. Fe dreulion nhw amser hefyd yn clwydo ar goed marw ar derfynau tiriogaeth y nyth ac fe’u gwelwyd yn aml yn cario deunydd nythu i’r canghennau hynny. Gwnaeth Elen ei hymddangosiad olaf ar nyth Glaslyn ar Awst 28.

Arhosodd KC6/Teifi ychydig yn hirach, er ei fod yn ddi-ddal ar adegau. Welson ni mohono o gwbl rhwng Medi 3 a 6. Wedyn mi ailymddangosodd ar noson Medi 7 i fwyta lleden fwd a daeth yn ei ôl gydag un arall y noson ganlynol, a’i fwyta gerllaw cyn hedfan i glwydo am y tro olaf yn 2025.

Rhoddodd Glas 498 ei big i mewn yn nyth Glaslyn ar Ebrill 16, am yr ail flwyddyn yn olynol. Yr aderyn canol o gywion Glaslyn 2022 oedd o. Cafodd ei hel i ffwrdd gan ei dad, ond ymddangosodd eto ar 2 Mai, y diwrnod y collodd Aran nyth Glaslyn.

Ar Ebrill 20 gwelwyd Glas 499, yr ieuengaf o gywion Glaslyn 2022 a chyw olaf Mrs G, yn nyth Gweilch Dyfi. Roedd ei thri chyw olaf i gyd wedi goroesi i fod yn oedolion, ond yn fwy anhygoel fyth roedd y tri hefyd wedi cael eu cofnodi yng Nghymru! Fe ddysgon ni wedyn fod 499 wedi treulio llawer o’r haf ar Ynys Môn.

Gwelwyd Glas 0H2, un o feibion Elen ac Aran o’u tymor bridio cyntaf gyda’i gilydd yn 2023, yn tresmasu yn nyth Gweilch Dyffryn Wysg ar Fehefin 15.

A ninnau’n cau’r Ganolfan Ymwelwyr am y tymor, cawsom y newyddion cyffrous gan Tim Mackrill fod 497 wedi paru ar nyth yn y De gyda gwalches, Glas 2H4 (Safle Rutland S 2022). Adeiladwyd y nyth yn 2024 gan yr arbenigwr ar adar ysglyfaethus Steve Roberts ac chafodd ei feddiannu cyn hir gan 497 a 2H4, ill dau wedi bod yn dresmaswyr yn nyth Gweilch Gilestone y flwyddyn honno. Magodd 497 a 2H4 ddau gyw gyda’i gilydd ac roedd popeth i’w weld yn mynd yn dda. Yn drasig, diflannodd y cyw ieuengaf ychydig cyn cyrraedd 5 wythnos oed, a’r dystiolaeth yn awgrymu ei fod wedi syrthio o’r nyth. Diflannodd y cyw hynaf hefyd ychydig yn fyr o 7 wythnos; mae poblogaeth uchel o weilch marthin yn yr ardal ac efallai iddo fynd yn ysglyfaeth iddyn nhw. Er gwaethaf methiant eu nyth, dyma’r pâr gweilch y pysgod cyntaf i fridio yn Sir Fynwy, a 497 yw’r cyntaf o weilch Glaslyn i gael ei gofnodi yn bridio yng Nghymru.