2020

A’r byd yng ngafael pandemig Covid 19 dyna braf oedd gweld Mrs G yn glanio ar y nyth ar 21 Mawrth: y gwalch cyntaf yn swyddogol i ddychwelyd i Gymru, a hithau wedi dod yn ôl atom bellach 17 tymor yn olynol, oedd yn record newydd.

Dychwelodd Aran ar 3 Ebrill a dyna bâr Glaslyn efo’i gilydd unwaith eto.

Bu’r Ganolfan Ymwelwyr ar gau am y tymor cyfan ond yn ffodus doedd gan y gweilch ddim syniad am y cyfnod trawmatig roedd pawb yn ei wynebu yn y byd dynol a chafodd tri chyw iach eu deor.

Trwy’r ffrydio byw denwyd dilynwyr newydd oedd yn falch o allu gwylio teulu bach y gweilch yn ystod y cyfnodau clo. Ffynnodd grŵp sgwrsio hefyd a gwelwyd sawl cyfeillgarwch ar-lein newydd yn datblygu.

Modrwywyd y cywion ar 24 Mehefin – KC2, KC3 a KC4. Byddai KC4 yn cael ei weld sawl gwaith wedyn yn Senegal yn 2021, 2022 a 2023.

Y cyntaf i adael y nyth oedd y cyw hynaf, KC2, a welwyd ddiwethaf ar 24 Awst. Cafodd Mrs G ei gweld ddiwethaf ar 5 Medi. Arhosodd Aran am rai dyddiau tan 15 Medi wedi i’r ddau gyw arall ymadael ar 9 Medi.

Bu’n dymor hynod lwyddiannus i iâr a cheiliog Glaslyn a’u tri chyw.

2021

Ar ôl uwchraddio camera, meicroffon a chyflenwad pŵer y nyth dros fisoedd y gaeaf, mawr fu’r disgwyl am ddychweliad pâr adar Glaslyn.

Dychwelodd Mrs G am ei deunawfed tymor yn y bore bach ar 25 Mawrth.

Cyrhaeddodd Aran bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 29 Mawrth am ei seithfed flwyddyn yng Nglaslyn, yntau hefyd yn cyrraedd yn y bore a hynny’n gynharach yn y flwyddyn nag erioed o’r blaen.

Roedd yn braf iawn croesawu ymwelwyr yn ôl i Bont Croesor am y tro cyntaf ers 18 mis, oherwydd pandemig Covid.

Dechreuodd y tymor yn ôl yr arfer gyda dodwy tri wy.  Ond cymerodd pethau dro dirdynnol er gwaeth pan ddechreuodd y cywion ddeor ym mis Mai.

Mewn storm gynddeiriog ar noson 20 Mai, gadawodd Aran y nyth i chwilio am bysgod i’w deulu bach. Welson ni mohono fo wedyn tan ganol y prynhawn canlynol, pan oedd y storm yn gostegu o’r diwedd. Doedd gan Aran ddim pysgodyn ac roedd yn amlwg o’i ymddygiad fod rhywbeth o’i le. Roedd Mrs G wedi bwydo gweddillion pysgod y diwrnod cynt i’r cywion yn ystod y bore ac roedd angen bwydo’r cywion ifanc iawn ar frys. Sylweddolsom fod Aran wedi cael anaf i’w adain dde ac roedd yn amlwg wedi ymlâdd.

Ar ôl cael cyngor arbenigol, fe benderfynon ni adael pysgod ychwanegol yn agos at y nyth, mewn ymgais i roi cyfle i’r teulu ifanc oroesi. Yn anffodus, methiant fu ein hymdrechion a bu farw’r tri chyw yn ystod y dyddiau canlynol. Ond a ninnau wedi darparu pysgod, cafodd Aran gyfle i orffwys a gwella ac o fewn pythefnos roedd wrthi’n dal pysgod bach ac ymhen pythefnos arall llwyddodd i ddal pysgod eitha swmpus eto. Roedd hi’n rhy hwyr yn y tymor i geisio magu ail nythaid o gywion, ond arhosodd Aran a Mrs G gyda’i gilydd yn amddiffyn eu nyth rhag gweilch diarth.

Dyma’r tro cyntaf ers 2004 i nyth Glaslyn beidio â magu un aderyn i’w lawn dwf. Roedd hyn yn ergyd drom i’r prosiect, ond diolch byth, yn raddol dros yr haf fe wnaeth Aran adferiad llwyr, a bu’n pysgota ac yn atgyfnerthu ei berthynas gyda Mrs G a’r nyth.

Cafodd Mrs G ei gweld ddiwethaf ar 29 Awst. Wnaeth Aran ddim dod yn ôl i’r nyth eto wedi iddi fynd, ond roedd i’w weld bron bob dydd yn bwyta’i bysgod ar ‘goeden yr A498’. Cafodd ei weld ddiwethaf ar y goeden wrth y tro yn yr afon ar 14 Medi cyn iddo yntau ei throi hi i fudo i’r de.

Yn ystod y tymor gwelwyd dros 19 o wahanol weilch y pysgod, yn cynnwys Mrs G ac Aran, ar nyth Glaslyn neu yn y dyffryn.

Y newyddion da arall oedd blwyddyn gyntaf lwyddiannus o fagu cywion ar nyth Cyfeillion y Gweilch ym Mhont Croesor gan Z2/Aeron (un o gywion Dyfi 2017) a Glas 014 (un o gywion Harbwr Poole 2018). Cawsant un cyw, Glas 494, a welwyd eto yn Llydaw pan oedd yn mudo ym mis Medi.