
Mae’r cyw ieuengaf, 2T4, wedi gwneud ei hediad cyntaf o’r diwedd. Gadawodd y nyth am 18:41 nos Sul 26 Gorffennaf yn 58 diwrnod oed.
Gadawodd Elen ei man chlwydo gerllaw i wneud yn siŵr ei fod yn iawn cyn glanio yn y goeden wrth ei ymyl. Yna ymunodd 2T4 â hi a threuliodd beth amser yn archwilio persbectif newydd sbon o’i fan glwydo.
