Ydych chi’n chwilio am syniad am anrheg i rhywun sy’n frwd am warchod y Gweilch? Neu ydych chi eisiau helpu’r Gweilch?
Elusen fechan yw Bywyd Gwyllt Glaslyn sy’n dibynnu ar roddion i’w helpu i gadw i fynd. Trwy fabwysiadu Gweilch Glaslyn rydych yn rhoi rhodd a fydd yn ein helpu i barhau efo’n gwaith cadwraeth. Wrth fabwysiadu byddwch yn gwneud gwahaniaeth i’r gweilch y pysgod a’r bywyd gwyllt yn Nyffryn Glaslyn. Eich haelioni a’ch cefnogaeth chi yw’r unig beth sy’n ein galluogi i ddal ati.
Gallwch ddewis mabwysiadu un o’r oedolion, y pâr o oedolion neu’r teulu cyfan.
Gyda phob mabwysiad byddwch yn derbyn pecyn o nwyddau a nodir isod, fel arwydd o ddiolch oddi wrthym ni.
Haenau o fabwysiadu:
Un Gwalch – £15.00
- Tystysgrif wedi’i phersonoleiddio
- Taflen Ffeithiau Gwalch
- Sticer Car
- Cerdynlun o walch o’ch dewis chi
- E-gylchlythyr Chwarterol (dros gyfnod y mabwysiad)
Pâr o Weilch – £30.00
Fel uchod, ynghyd â:
- Tystysgrif wedi’i phersonoleiddio
- Taflen Ffeithiau Gwalch
- Sticer Car
- Cerdynlun Aran ac Elen
- Pum cerdyn post
- E-gylchlythyr Chwarterol (dros gyfnod y mabwysiad)
Teulu o Weilch – £55.00
Fel uchod, ynghyd â:
Print A4 Teulu Gweilch Glaslyn
*Os na fydd eitem ar gael adeg archebu, mae BGGW yn cadw’r hawl i amnewid yr eitem honno yn lle eitem arall sydd o werth tebyg.
Os mai anrheg yw eich mabwysiad, dewiswch ‘yes’ isod, gan nodi’r enw a’r cyfeiriad i anfon yr anrheg iddo.
Mabwysiadau yn cael eu postio un diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd.
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Canolfan Ymwelwyr,
Pont Croesor,
Prenteg,
Gwynedd
LL49 9SP
Sieciau yn daladwy i “Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife”. Nodwch, os gwelwch yn dda, os hoffech dderbyn eich dogfennaeth yn y Gymraeg neu Saesneg a sicrhau eich bod yn nodi’n glir eich dewis o fabwysiad yngyd â’ch cyfeiriad llawn.
Os ydych yn drethdalwr yn y DU, gallwch hefyd roi Cymorth Rhodd, sef 25% ychwanegol i’ch cyfraniad. Lawrlwythwch y ffurflen a naill ai ei dychwelyd drwy ebost i giftaid@glaslynwildlife.co.uk neu ei hanfon i’r cyfeiriad uchod.

