YMUNWCH Â NI A GWNEWCH HI’N FLWYDDYN WYCH  I WEILCH GLASLYN!

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi un ai ail ymaelodi â Bywyd Gwyllt Glaslyn eleni neu sydd wedi ymaelodi am y tro cyntaf.  Hefyd, mae nifer ohonoch chi wedi anfon cyfraniadau gyda’ch tâl aelodaeth. Diolch o galon ichi am eich haelioni a’ch cefnogaeth.

Fel aelod o BGGW rydych chi’n cefnogi’r unig elusen annibynnol yng Nghymru sy’n ymroddedig i ddiogelu a gwarchod Gweilch.

Fel y gwyddoch, mae BGGW yn gweithredu:

  • i godi proffil Gweilch yng Nghymru drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
  • i ymgysylltu â’r gymuned leol i warchod Gweilch Glaslyn.
  • i annog a helpu plant ysgol, y gymuned leol, ac ymwelwyr i ddarganfod a dysgu am yr amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid y gellir eu darganfod o’n Canolfan Ymwelwyr ac, wrth wneud hynny, helpu i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy yn Nyffryn Glaslyn.

Mae’r tâl aelodaeth yn rhedeg o 1af Ebrill i 31ain Mawrth bob blwyddyn. Mae dau fath o aelodaeth:

Aelodaeth sengl (Oed 18 a drosodd)                                   £15

Aelodaeth Teulu (Uchafrif 2 Oedolyn + 2 Blentyn)          £25

Gellir anfon siec at:
BGGW Membership, Visitor Centre, Pont Croesor, Prenteg Gwynedd LL49 9SP neu trwy lenwi Archeb Sefydlog naill ai’n electronig neu anfon ffurflen â llaw yn uniongyrchol i’ch banc personol.
Dylid anfon y ffurflen Aelodaeth a’r ffurflen Datganiad Cymorth Rhodd, os yw’n berthnasol, at y cyfeiriad uchod neu drwy e-bost i gill@glaslynwildlife.co.uk.

Ffurflen-Tanysgrifiad-Aelodaeth

Archeb Sefydlog

Datganiad Cymorth Rodd

Datganiad Rhodd Cymorth Elusen (Rhoddion lluosog)

Diolch.