
Rydym yn falch o rannu’r newyddion bod Aran wedi glanio ar nyth Glaslyn am 12:08 prynhawn heddiw. O’r diwedd!
Mae Aran a Mrs G bellach gyda’i gilydd ar y nyth unwaith eto, er ei bod yn edrych fel eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau pellhau cymdeithasol pan gyrhaeddon nhw yn ôl i’r nyth am y tro cyntaf gyda brithyll yr un.

Roedd trydydd gwalch y pysgod yn hedfan dros y nyth pan gyrhaeddodd Aran yn ôl gyntaf, sydd yn esbonio’r ymddygiad rhyfedd a arddangoswyd gan y ddau. Er mae’n eithaf arferol iddynt fantellu ar ei gilydd hefyd wrth gyfarfod am y tro cyntaf ar ôl seibiant o chwe mis. Yn nes ymlaen roedd Aran yn gyflym i amddiffyn ei bartner rhag y brain lleol oedd yn ceisio dwyn tamaid o bysgod i de.

Roedd Glas 5F wedi ymweld â’r nyth yn gynnar y bore yma ac mae’n debyg mai hi oedd y trydydd gwalch yn hedfan dros y nyth pan gyrhaeddodd Aran adref.
