Mae pâr o weilch y pysgod wedi bod yn bridio yn Nyffryn Glaslyn ers 2004. Yr RSPB oedd yn gyfrifol am y ganolfan wylio gyntaf ym Mhont Croesor o 2005 tan i grŵp o selogion bywyd gwyllt lleol ymgymryd â rheolaeth y prosiect yn 2013.

Roedd y pâr gweilch cyntaf yng Nghymru ers cannoedd o flynyddoedd yn denu miloedd o ymwelwyr ac wedi dal diddordeb y gymuned leol.

The view from the Visitor CentreSefydlwyd Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife (BGGW) fel prosiect cymunedol i barhau’r gwaith o ddiogelu gweilch yn y dyffryn, a thynnu sylw at y cyfoeth o fywyd gwyllt arall sydd yn yr ardal.

Dechreuwyd adeiladu Canolfan Ymwelwyr newydd ym Mhont Croesor yn 2014, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol y flwyddyn ganlynol gan Iolo Williams.

Cafwyd statws elusennol yn 2017. Yn 2021 lansiwyd apêl i gael cuddfan newydd a diolch i gefnogaeth anhygoel y cyhoedd fe’i hadeiladwyd y flwyddyn ganlynol. O’r guddfan, a agorwyd yn swyddogol yn 2022 gan Iolo Williams, ceir golygfeydd gwych drwy delesgopau o nyth Glaslyn ac ail nyth ym Mhont Croesor, lle dechreuodd pâr arall o weilch fridio yn 2020.

Fe wnaeth iâr wreiddiol 2004, sy’n cael ei hadnabod fel Mrs G, ddeor ei hanner canfed cyw, y cyntaf o dri chyw iach, yn 2022, blwyddyn degfed pen-blwydd Bywyd Gwyllt Glaslyn.

Gallwch ddarllen stori lawn degawd cyntaf Bywyd Gwyllt Glaslyn yma. (link to First Decade blog from 18 December)

Denir miloedd o ymwelwyr o bell ac agos bob blwyddyn i wylio lluniau byw ar sgriniau yn y Ganolfan Ymwelwyr a’r guddfan helaeth, wedi’u trosglwyddo o gamerâu safon uchel ar y nyth. Caiff y delweddau hyn eu ffrydio’n fyw ar y wefan i ddilynwyr a selogion ledled y byd.

Gall ymwelwyr wylio pysgod yn cael eu cludo i’r nyth a chywion yn bwydo ar y sgrin, a gweld gweilch yn codi’n uchel uwchben y dyffryn. Mae gwirfoddolwyr gwybodus yma i egluro hanes gweilch Glaslyn mewn amgylchedd cyfeillgar.

Rheolwr y Ganolfan Ymwelwyr, Heather Corfield, yw unig weithiwr cyflogedig y prosiect.

Mae’r elusen yn dal i fynd diolch i gefnogaeth ddi-baid ei haelodau, ei chefnogwyr a’i hymwelwyr, ynghyd ag oriau o waith diflino gan ei gwirfoddolwyr a’i hymddiriedolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u harbenigedd am ddim.

Ymddiriedolwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn

Gill Pritchard (Cadeirydd)

Gwenan Williams (Trysorydd)

Barbara Milne

Dr Helen Wood

David Archer

Neil Atkinson

Judith Babbage

Chris Parry

Mary King

 

End of season group photo as volunteers bid farewell