2016
Dychwelodd Mrs G ar Mawrth 23ain a bu raid iddi aros tan Ebrill 12fed am ddychweliad ei chymar newydd, Aran. Yn anarferol, dodwyodd Mrs G yr wy cyntaf gwta chwe diwrnod wedi i Aran ddychwelyd, ond o fewn oriau i’w ddodwy roedd hi wedi claddu’r wy dan ddeunydd nythu. Fel rheol, bydd Mrs G yn dodwy ei hwyau bob tri diwrnod ac fel arfer mae’n rhaid aros o leiaf 12 diwrnod o’r paru cyntaf cyn gweld yr wy cyntaf. Tybed oedd y saith wy a ddodwyodd yn ystod 2015 wedi effeithio ar ei phatrwm dodwy arferol? Cafodd yr ail wy ei ddodwy bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar Ebrill 22ain a chafwyd bwlch arall o bedwar diwrnod rhwng hwnnw a’r trydydd. Gorwyd y ddau wy hyn o’r cychwyn. Aeth Mrs G yn ôl i’w phatrwm dodwy arferol ar ôl 2016.
Ar Mai 3ydd 2016 glaniodd Blue 2R (neu “Clarach”, fel y’i gelwid hi gan bawb) ar nyth Glaslyn. Fe’i ganwyd yn safle Dyfi yn 2013, a dyma’r tro cyntaf iddi gael ei gweld eto fel oedolyn. Ymhen deg diwrnod roedd hi yn ei hôl eto yn creu hafog, gan ddwyn dau bysgodyn roedd Aran wedi’u gadael yn y nyth, a gwneud ychydig o dynnu coes wrth gipio brithyll o’i big! Sathrodd ar Mrs G a hyd yn oed gwneud ei baw ar ei chefn. Arhosodd Mrs G ar ei dau wy drwy gydol y cythrwfl heb ymddwyn yn ymosodol tuag at Clarach, a oedd yn ymddwyn fel hwligan. Yn amlwg doedd Mrs G ddim yn ei gweld fel bygythiad, a dewisodd warchod ei hwyau. Gadawodd Clarach y nyth yng Nglaslyn ar Mai 14eg. Ar Mai 17eg roedd hi’n aflonyddu ar nyth Manton Bay yn Rutland ac ar Mai 29ain roedd hi yn nyth gwreiddiol White YA (Glaslyn-anedig) yng Nghoed Kielder.
Deorodd dau gyw ar nyth Glaslyn, y naill ar Mai 28ain a’r llall ar Mai 31ain. Cawsant eu modrwyo ar Gorffennaf 3ydd, ac am y tro cyntaf cymerwyd swabiau boch DNA i’w dadansoddi. Benyw oedd y cyw hynaf, a chafodd ei modrwyo’n Glas W7, a gwryw oedd yr ieuengaf, Glas W8. Gadawodd y cyw fenwy y nyth am y tro cyntaf ar Gorffennaf 20fed a’r gwryw ar Gorffennaf 23ain. Y noson wedi i W8 adael y nyth fe syrthiodd oddi ar ei glwyd wrth ddisgyn i gysgu, ac yn dilyn marwolaeth drist Ceri, yr hynaf o ddau gyw Dyfi, yn fuan wedi iddi hithau ddysgu hedfan, codwyd pryderon. Ond cyn gynted ag y daeth Aran â physgodyn yno fore trannoeth roedd W8 yn ôl ar y nyth. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach daeth W7 yn ôl i’r nyth yn gloff wedi anafu ei choes. Doedd neb yn gwybod sut y cafodd hi’r anaf, ond gellid gweld briw ar ei choes. Ar ôl ychydig ddiwrnodau o boeni, a hithau’n gwrthod bwyta, yn union fel y gwnaeth Ceri, dechreuodd ymateb i gynigion bwyd Mrs G a chafodd adferiad llwyr.
Gadawodd Mrs G Dyffryn Glaslyn ar Medi 9fed. Gwelwyd y ddau gyw am y tro olaf ar Medi 13eg. Arhosodd Aran tan Medi 16eg.
Roedd wedi bod yn flwyddyn heriol unwaith eto i bawb yng Nglaslyn.
2017
Daeth Mrs G yn ôl i Ddyffryn Glaslyn ar Mawrth 22ain a daeth Aran ar ei hôl ar Ebrill 7fed 2017. Gwta 12 diwrnod yn ddiweddarach ar Ebrill 19eg, dodwyodd Mrs G ei hwy cyntaf, a dau arall ar Ebrill 22ain a 25ain. Wedi helyntion y ddwy flynedd gynt, roedd hi’n ôl yn ei phatrwm dodwy rheolaidd. Deorodd y cyw cyntaf ar Mai 26ain, a’r ail yn fuan wedyn ar Mai 27ain. Doedd y trydydd cyw ddim yn bell ar ôl y ddau arall, gan ymddangos eiliadau cyn hanner nos ar Mai 29ain.
Roedd y tri chyw’n gryf ac yn iach ac am y tro cyntaf yn hanes Glaslyn cawsant eu modrwyo yn y nyth yn hytrach na dod â nhw i lawr i’r ddaear, gan yr adaregwr profiadol iawn Tony Cross. Dyfarnodd mai cywion gwryw oedd y tri: y tro cyntaf inni weld tri chyw o’r un rhyw yng Nglaslyn. Cymerwyd swabiau DNA dan drwydded o fochau’r cywion, ac roedd y rheini’n ddigon i gadarnhau eu rhyw. Gosodwyd modrwyau Darvic Z6, Z7 a Z8 ar y tri – Z6 i’r hynaf a Z8 i’r ieuengaf.
Gadawodd Z6 y nyth yn 51 diwrnod oed ar Gorffennaf 16eg, wedyn Z7 yn 53 diwrnod oed ar Gorffennaf 19eg ac yn olaf Z8 yn 54 diwrnod oed ar Gorffennaf 22ain. Tyfodd y teulu o bump yn deulu o chwech dros dro ar Awst 23ain 2017. Ymunodd Glas JS5 â’r teulu am dridiau, cyw benywaidd a fodrwywyd ar Gorffennaf 11eg ar nyth yn Argyll, ond yn fuan iawn blinodd ei “brodyr mabwysiedig” arni’n dwyn eu cyfran o’r pysgod a gyfrannai Aran, ac fe’i gwelwyd ddiwethaf yn cael ei hel i ffwrdd o’r nyth gan Z7.
Mrs G oedd y gyntaf i ymadael, ar Medi 5ed, wedyn Z6 ar Medi 8fed a Z8 ar Medi 9fed. Aeth Z7 ar Medi 11fed ac yn olaf gadawodd Aran ar Medi 12fed.
Yn ystod 2017 cafwyd mwy o newyddion cyffrous wrth i adar eraill a anwyd yng Nglaslyn gael eu gweld eto am y tro cyntaf. Ar Mehefin 12fed, gwelwyd Glas W0, “ Ŵbach, y cyw ieuengaf gwyrthiol” o 2015, ar un o’r camerâu nyth yng Nghoedwig Kielder. Yna gwelwyd nid un, ond dau o dri chyw 2014. Yn gyntaf, tynnwyd llun Glas 9C yn RSPB Leighton Moss ar Gorffennaf 25ain. Wedyn tynnwyd llun ei chwaer iau, Glas 8C, yn Popenguine, Senegal ar Hydref 7fed. Dyma’r tro cyntaf i un o weilch Glaslyn gael ei weld ar gyfandir Affrica.
