Unwaith y bydd y gweilch wedi gadael Dyffryn Glaslyn am y gaeaf, bydd misoedd o brysurdeb o’n blaen ar safle Bywyd Gwyllt Glaslyn.

Byddwn yn defnyddio rhoddion hael a gawsom gan ein cefnogwyr y llynedd tuag at brynu tir y Traeth Bach, pryniant na ddigwyddodd yn y pen draw ysywaeth, i wella cynefinoedd a bioamrywiaeth o amgylch safle Pont Croesor.

Fel rhan o’n cynlluniau cyffrous i wella cynefinoedd ar dir o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr a Chuddfan John Parry byddwn yn creu dôl blodau gwyllt i gynnal gwenyn, gloÿnnod byw, gwyfynod a pheillwyr eraill.

Caiff parthau eraill eu mapio i gynnwys pant a llyn bywyd gwyllt i greu cynefin i amffibiaid a denu gwesynnod ac adar. Byddwn yn plannu coed, gwrychoedd a llwyni brodorol hefyd i annog safleoedd nythu i adar. Gosodir mwy o flychau adar ac ystlumod a lletyau pryfed ar y safle.

Bydd llwybr natur drwy’r ddôl blodau gwyllt yn cynnwys byrddau dehongli i ymwelwyr, yn rhoi manylion y cynefinoedd a’r rhywogaethau.

Rydym wedi cyflogi’r arbenigwyr rheoli cefn gwlad Kehoe Countryside Ltd (Bangor) i wneud y gwaith ar ein rhan.

Diolch am eich holl gefnogaeth i’r prosiect cyffrous hwn i warchod bywyd gwyllt, a cadwch lygad am newyddion rheolaidd dros y misoedd nesaf.