Mrs G
Yn 2004 cafwyd tystiolaeth am y tro cyntaf bod Mrs G yn magu ar nyth Glaslyn. Hefyd mae’n bosib mai arddangos iddi hi oedd y ceiliog a welwyd yn 2003. Ganol haf oedd hi, sef yr union amser y disgwylir gweld gwalch dwy neu dair mlwydd oed yn chwilio am gymar.
Yn anffodus, methodd â dychwelyd yn 2023 ar gyfer beth fyddai wedi bod ei 20fed tymor o fridio yn Nyffryn Glaslyn.
Faint oedd ei hoed hi?
Gan nad oedd hi wedi’i modrwyo, dydyn ni ddim yn gwybod ei hunion oed na’i hanes blaenorol, ond mae yna un neu ddau o gliwiau a all awgrymu ei hoedran bosib. Mae’n hysbys mai ym mis Ebrill y tuedda’r gweilch tair mlwydd oed gyrraedd, tra bo’r adar dyflwydd yn dueddol o gyrraedd yn hwyr ym mis Mai ymlaen. Gwyddom yr union ddyddiad y bu farw’r cywion yn 2004, a gallwn amcangyfrif eu hoedran yn fras o’u plu. O weithio nôl trwy’r dyddiadau, gallwn ddyfalu bod Mrs G wedi cyrraedd tua’r 20fed o Ebrill y flwyddyn honno. Felly, aderyn tair mlwydd oed ydy hi. Hefyd, gwyddom i sicrwydd ei bod hi wedi cyrraedd ar yr 22ain o Ebrill yn 2005, oedd eto’n cefnogi’r farn mai iâr ifanc dibrofiad oedd hi. Yn ychwanegol, tuedda iâr ifanc i gael nythaid bychan; dim ond dau gyw gafwyd yn 2004 a hefyd dim ond dau gyw a anwyd yn 2005, er bod tri ŵy wedi’u dodwy. O ganlyniad, gallwn ddyfalu bod Mrs G mwya’r tebyg wedi’i geni yn 2000 neu 2001. Felly, roedd hi’n tua 22 oed y tro diwethaf i ni ei gweld yn 2022.
Sawl wy wnaeth hi ddodwy? – O leiaf 60 – wnawn ni byth wybod faint wnaeth hi ddodwy yn 2004, ond gwyddom bod o leiaf dau ŵy yn y nyth. 32 wy gydag 11 (98) ac 23 wy gydag Aran. Roedd y pump wy cyntaf yn 2015 un ai’n anffrwythlon neu’r tad yn anhysbys.
Nifer o gywion a gynhyrchwyd
52 wedi deor
44 wedi mynd dros y nyth
Ar wahân i’r ddau gyw a laddwyd yn y storm yn 2004, mi gollwyd cyw yn 2006 hefyd (yr hynaf, toc cyn hedfan o’r nyth) ac yn 2007 (y cyw canol a oedd yn 16 niwrnod oed – ychydig ddyddiau ynghynt mi gafodd ei daro ar draws y nyth gan hyrddyn bywiog, efallai bod cysylltiad). Yn 2019 bu farw’r cyw canol yn 19 diwrnod oed. Datgelodd post-mortem mai niwmonia oedd achos y marwolaeth a gwaedlif ar yr ysgyfaint a oedd yn gysylltiedig â llyngyr yr ysgyfaint, ynghyd ag anemia difrifol o ran colli gwaed. Nododd yr adroddiad hefyd ei bod yn debygol mai menyw oedd y cyw canol.
Yn ystod 2021, cafodd Aran ei anafu yn ystod storm ychydig ddyddiau wedi i’r ddau gyw cyntaf ddeor ac fel roedd y trydydd cyw yn deor. Roedd o’n methu dal pysgod iddyn nhw yn ystod y cyfnod cynnar tyngedfennol hwn yn eu bywydau ac yn drist iawn bu farw’r tri chyw o fewn wythnos.
Dychwelodd Mrs G yn 2022 ar gyfer ei 19eg tymor bridio yn Nyffryn Glaslyn, ac ar ôl ‘ffling bach’ yn gynnar yn y tymor gyda Z2 /Aeron ar Nyth Pont Croesor, daeth yn ôl at Aran i fagu teulu’n llwyddiannus ar nyth Glaslyn am y tro olaf.
Gor-gywion
130 hyd yn gwyddom ni ar hyn o bryd!
Gor-wyrion
13 hyd yma!
11 (98)
Ganwyd Melyngoch (Ochre) 11 mewn nyth ger Aviemore yn 1998, cyn cael ei symud i Rutland yn y mis Gorffennaf fel rhan o brosiect trawsleoli gweilch y pysgod. Yn Rutland, fo oedd y cyw ifanc trechaf, yn gyson yn dwyn pysgod gan adar eraill yn y gorlan. Yn annisgwyl, pan gafodd ei ryddhau ar y 7fed o Awst, mi gymerodd o dros awr i adael y gorlan. Er syndod, o ystyried ei hanes wedi hynny, mi dreuliodd rhai wythnosau yng nghyffiniau’r argae. Cyn belled ag y gwyddom, ni ddychwelodd i Rutland fel oedolyn.
Ganol haf 2003, roedd adarwyr lleol ym Mhorthmadog yn grediniol eu bod wedi gweld ceiliog yn arddangos a chredant bod ail walch o gwmpas hefyd. Roedd yn rhy hwyr yn y tymor i fagu cywion, ond roedd gobaith mai chwilio am gymar oedd y ddau. Yn 2004, darganfuwyd bod 11 (98) yn magu ar nyth Glaslyn gyda Mrs G, serch i’r pâr golli eu dau gyw pan lithrodd y nyth mewn storm anhymorol. Mae’n debygol iawn mai 11 (98) oedd y ceiliog a welwyd yn arddangos i’r iâr honno yn 2003.
Gwisgai fodrwy Darfig melyngoch plastig gyda’r rhif 11 arni hi tan 2007, pan ddrysodd pawb gan iddo ddychwelodd i’r Glaslyn hebddi. O’r hyn a welwyd, doedd o ddim yn hoff o leden fwd ac ni wnaeth erioed dod â’r un yn nôl i’r nyth. Ei hoff bysgod oedd hyrddyn a brithyll ac fe’i welwyd yn aml yn pysgota ym Mwll McAlpine ar hyd Cob Porthmadog. Roedd yn walch nodedig iawn ac roedd yn llonni’r galon ei weld yn pysgota o’r Cob.
Fe’i welwyd am y tro olaf ar 4ydd o Fedi, 2014 pan oedd yn 16 oed.
Blynyddoedd Bridio – 2004 i 2014
Nifer o gywion a gynhyrchwyd
30 wedi’u geni
26 wedi mynd dros y nyth
Aran
Ar 30ain o Ebrill, 2015 mi gyrhaeddodd ceiliog ifanc di-fodrwy y Glaslyn. Fe’i enwyd oherwydd pan gyrhaeddodd i ddechrau roedd o’n hedfan i gyffiniau Nantmor ac o’r Ganolfan Ymwelwyr edrychai fel petai o’n hedfan tuag at Yr Aran, copa i’r dde o’r Wyddfa. Roedd hefyd yn enw rhwydd i siaradwyr di-Gymraeg ei ynghanu.
Mi gyrhaeddodd Aran yn ystod y cyfnod hwnnw pan y disgwylir gweld gwalch dwy neu dair mlwydd oed yn chwilio am gymar. Awgryma ei ymddygiad yn ystod ei flwyddyn magu cyntaf nad oedd yn geiliog profiadol a doedd ei blu ddim yr hyn a ddisgwylid gan geiliog mwy aeddfed. Roedd o’n paru yn llai rheolaidd na’r hyn a welwyd gan yr hen bâr ac fe ymddangosai braidd yn ansicr ynglyn â sut i ymddwyn gyda’r cywion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw. Er enghraifft, pan oedd y cywion tua pythefnos oed a Mrs G yn absennol o’r nyth am ychydig oriau ar drywydd gwalch estron, ni wnaeth Aran unrhyw ymdrech i’w bwydo ei hun er eu bod yn galw am y pysgodyn oedd o wedi’i ddod i’r nyth. Serch hynny, mae o wedi dangos ei fod yn ddarparwr pysgod gwych, gan ddod ag amrywiaeth eang iawn o rhywogaethau, megis cornbig, lleden fwd a draenog y môr, ynghyd â brithyll a hyrddyn yn ôl i’r nyth. Profodd ei hun yn fwy profiadol wrth baru yn ystod ei ail flwyddyn magu, gan ein bod hefyd wedi’i weld yn paru gyda iâr arall, Glas 5F. Ym mis Mehefin 2016, mi ddangosodd ei fod yn fwy hyderus gyda’r cywion, gan iddo eu bwydo ei hun am y tro cyntaf.
Mewn storm gynddeiriog ar noson 20 Mai, gadawodd Aran y nyth i chwilio am bysgod i’w deulu bach. Welson ni mohono fo wedyn tan ganol y prynhawn canlynol, pan oedd y storm yn gostegu o’r diwedd. Doedd gan Aran ddim pysgodyn ac roedd yn amlwg o’i ymddygiad fod rhywbeth o’i le. Roedd Mrs G wedi bwydo gweddillion pysgod y diwrnod cynt i’r cywion yn ystod y bore ac roedd angen bwydo’r cywion ifanc iawn ar frys. Sylweddolsom fod Aran wedi cael anaf i’w adain dde ac roedd yn amlwg wedi ymlâdd.
Ar ôl cael cyngor arbenigol, fe benderfynon ni adael pysgod ychwanegol yn agos at y nyth, mewn ymgais i roi cyfle i’r teulu ifanc oroesi. Yn anffodus, methiant fu ein hymdrechion a bu farw’r tri chyw yn ystod y dyddiau canlynol. Ond a ninnau wedi darparu pysgod, cafodd Aran gyfle i orffwys a gwella ac o fewn pythefnos roedd wrthi’n dal pysgod bach ac ymhen pythefnos arall llwyddodd i ddal pysgod eitha swmpus eto. Roedd hi’n rhy hwyr yn y tymor i geisio magu ail nythaid o gywion, ond arhosodd Aran a Mrs G gyda’i gilydd yn amddiffyn eu nyth rhag gweilch diarth.
Er ei fod yn hwyrach yn cyrraedd yn ôl yng ngwanwyn 2022 o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf, mi ddaeth yn ôl i nyth Glaslyn ar 10 Ebrill a daeth Mrs G yn ôl ato cyn hir am dymor bridio llwyddiannus arall.
Nifer o gywion a gynhyrchwyd
26 wedi’u deor
22 wedi mynd dros y nyth
Elen
Nid yw Elen wedi’i modrwyo a chafodd ei gweld am y tro cyntaf ar nyth Glaslyn ar 3 Ebrill 2023. Ni ddychwelodd Mrs G o’i hymfudiad. Parodd Aran ac Elen, a magwyd dau gyw gwrywaidd.
Enwir Elen ar ôl Yr Elen, mynydd yn y Carneddau yn Eryri. Mae hi’n debygol o fod yn walch tair oed ac o’i hymddygiad, credir ei bod yn bridio am y tro cyntaf.
2 wedi mynd dros y nyth
Glas 5F
Gwalch a anwyd yn nyth Safle K Rutland yn 2012 ydy hi. Ei mam ydy Melyn 30 (ganwyd yn nyth Safle B Rutland yn 2005) sydd wedi’i thagio â lloeren, a’i thad oedd y ceiliog Coch 08 a drawsleolwyd i Rutland yn 2001.
Ym mis Rhagfyr 2013, tynnodd Chris Wood lun o Glas 5F yng Nghors Tanji yn y Gambia. Roedd hi’n 18 mis oed; ni fyddai hi wedi bod nôl i Wledydd Prydain o gwbl bryd hynny. Ym mis Rhagfyr 2014, dychwelodd Chris i Gors Tanji a gwelodd 5F am yr eildro wedi ymgartrefu yno am y gaeaf. Ni welwyd hi nôl yng Ngwledydd Prydain yn ystod yr haf hwnnw, ond mae’n debyg ei bod wedi teithio nôl i’r gogledd yn aderyn dyflwydd. Ar y 9fed o Ebrill 2015, cafwyd cip o Glas 5F ar gamera eto, ond y tro hwn fel roedd hi’n glanio ar glwydfan nyth Glaslyn; dyma’r olwg gyntaf ohoni hi fel oedolyn yng Ngwledydd Prydain. Mi arhosodd yn ardal y Glaslyn yn ystod yr haf hwnnw gan ymyrryd â nyth Glaslyn nifer o weithiau. Ganol mis Hydref, cawsom newyddion gan Fansu Bojang a Chris Wood bod 5F wedi dychwelyd i’w chynefin gaeaf ar Gors Tanji.
Ar y 29ain o Fawrth 2016, mi laniodd Glas 5F ar glwydfan nyth Glaslyn unwaith eto. Deuddydd yn ddiweddarach mi gafodd sgarmes gyda’i chyfnither Glas 24 ar y nyth yng Nghors Dyfi. Ar y pryd, nid oedd Glesni, cyfnither arall, a iâr preswyl Dyfi wedi dychwelyd. Cyn bo hir, roedd 5F nôl ar ei hoff lwyfan nythu yn ardal y Glaslyn. Gwelwyd Aran yn paru â hi sawl gwaith ac am gyfnod edrychai fel petai hi’n gori ar wyau. Fodd bynnag, methiant fu’r nyth a cyn bo hir mi ail gydiodd 5F ymyrryd yn rheolaidd â nyth Glaslyn.
Yn ystod y gaeaf 2016 i 2019, fe ymgartrefodd 5F unwaith eto yn ei gaeafle yn y Gambia, lle llwyddodd Chris Wood i dynnu ei llun hi am y bedwaredd a’r bumed flwyddyn yn olynol. Yn ystod gaeaf 2018 fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i hamser yn ardal Traeth Tujereng o’r Gambia, er iddi gael ei gweld yn Nghorsydd Tanji eto yn Hydref 2019.
Ar 1af Ebrill 2020, ymddangosodd 5F ar y camera a osodwyd gan CNC ar nyth Gweilch Llyn Clywedog yng nghanolbarth Cymru. Ar 3ydd Ebrill ymddangosodd hefyd ar nyth Glaslyn, cyn cael ei erlid gan Mrs G. Y diwrnod canlynol dychwelodd i Glywedog ac yn fuan ymunodd y gwryw preswyl, Dylan. Methodd y fenyw wreiddiol, Delyth, â dychwelyd a daeth 5F yn bartner newydd i Dylan. Gyda’i gilydd fe wnaethant fagu tri chyw gwrywaidd a gadawodd y tri’r nyth yn llwyddiannus. Canlyniad hapus iawn – llongyfarchiadau 5F!

