Byddwn yn agor am y tymor newydd ddydd Llun 23 Mawrth 2026. Agored bob dydd 10.30 – 16.30.
Cyrraedd Gweilch Glaslyn
Mewn Car
Mae arwyddion ffyrdd melyn i’w cael ar wahanol ffyrdd o gwmpas Porthmadog.
Cymerwch yr A487 i’r gogledd o Borthmadog. Trowch i’r dde i’r A498 yn Nhremadog. Ar ôl tua 2.5 milltir, trowch i’r dde i’r B4410. Mae’r fynedfa ar y dde cyn y groesfan reilffordd.
Ar Fws
Gwasanaeth rhwng Porthmadog a Beddgelert bob dwy awr. Nid yw’n stopio’n union wrth y safle felly bydd angen cerdded ychydig bach. (Traveline Cymru)
Ar Drên
Mae trên Rheilffordd Eryri yn aros ym Mhont Croesor. (Link to Railway web site)
Yng Nghanolfan Gweilch Glaslyn
- Parcio am ddim
- Toiledau
- Parcio i’r anabl a mynediad i’r Ganolfan Ymwelwyr a Thoiledau
- Croeso i gŵn ar dennyn
- Llecyn picnic gyda golygfeydd godidog
- Croeso cynnes gan wirfoddolwyr gwybodus
- Trenau stêm yn pasio heibio ar Reilffordd Eryri
Yn y Ganolfan Ymwelwyr
- Lluniau byw o ddau nyth ar sgriniau mawr
- Golygfeydd o nyth Glaslyn a’r adar trwy delesgopau manwl iawn
- Siop Anrhegion
- Lluniaeth ysgafn gan gynnwys hufen iâ Glaslyn
Yng Nghuddfan John Parry
- Lluniau byw o ddau nyth ar sgrîn fawr
- Byrddau dehongli, mapiau a Choeden Deulu Glaslyn
- Golygfeydd o’r nythod a’r adar trwy delesgopau manwl iawn
Cysylltu
Ffôn: 07834 575 008
Facebook / Twitter
Cyfeiriad
Gweilch Glaslyn, Prenteg, ger Porthmadog, Gwynedd LL49 9SP
What3words: parsel.machludo.lluchia
“Croeso mor gynnes a chyfeillgar”
“Mae’n werth talu ymweliad… dro ar ôl tro!”
“O’r Ganolfan Ymwelwyr fe welson ni dri gwalch yn hedfan uwch ein pennau”
