Dydd Sul 24 Mai
11:00-16:00
Hafod Garegog, Nantmor, LL55 4YN

Os buoch yn safle Gwarchod Glaslyn unrhyw bryd dros y blynyddoedd, mi fyddwch wedi sylwi ar Hafod Garegog, hen dŷ hardd i lawr oddi ar ochr dde’r lôn ychydig ar ôl i chi droi oddi ar y ffordd fawr.

Tan yn ddiweddar roedd yr eiddo’n gartref i Dorien ac Anne a fu farw yn 2025, ysywaeth. Dros y blynyddoedd roedden nhw wedi creu gardd fendigedig. Mae yno bren magnolia mawreddog sy’n frenin dros yr ardd yn y gwanwyn ac sydd i’w weld gan wirfoddolwyr wrth fynd heibio i ymgymryd â’u dyletswyddau yn y safle gwarchod. Branwen, merch y pâr, sy’n gyfrifol am yr eiddo bellach, ac mae hi’n gobeithio cynnal y gerddi fel y gwnaeth ei rhieni. Roedd Dorien ac Anne yn cymryd diddordeb mawr hefyd yng ngweilch Glaslyn, oedd yn nythu dafliad carreg o’u cartref ac i’w gweld yn aml yn hedfan uwch eu pennau pan fyddent wrthi yn yr ardd.

Mae Branwen a’i gŵr Keith wedi penderfynu cynnal digwyddiad Gardd Agored yn Hafod Garegog er cof am ei rhieni ac i godi arian i Weilch Glaslyn a’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Os ydych chi’n hoff o erddi, dyma gyfle unigryw i ymweld â gardd sydd byth ar agor i’r cyhoedd. Dyma sut mae’n cael ei disgrifio yn llyfryn y Cynllun Gerddi:

Gardd aeddfed un erw gyda thri thymor o ddiddordeb, ar lan afon Nantmor a’r warchodfa natur genedlaethol. Mae’r ardd yn amgylchynu’r hen dŷ, a ailadeiladwyd ym 1622 ar seiliau cartref y bardd Rhys Goch Eryri o’r 14eg ganrif: mae barddoniaeth y bardd wedi goroesi hyd heddiw. Ceir gerddi dŵr ar ddwy lefel, gerddi muriog a gerddi pleser gyda golygfeydd hyfryd o’r Wyddfa, Cnicht, Moel Hebog ac Eryri.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sul, Mai 24 o 11-4. Pris mynediad yw £5 a bydd hanner yr arian o werthiant y stondin gacennau yn mynd i Weilch Glaslyn. 

Rydym yn ddiolchgar iawn i Branwen a Keith am eu cefnogaeth ac rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn gallu manteisio ar y cyfle i ymweld â gardd fendigedig Hafod Garegog.