
Sgwrs am y Wennol Ddu gan Ben Stammers, Swyddog Prosiect Adfer Gwenoliaid Duon, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Nos Sadwrn 24 Hydref
6:00pm
Canolfan Prenteg, LL49 9SP
Dewch draw i ddysgu mwy am fywydau’r adar anhygoel hyn, eu taith ryfeddol, eu hymddygiad hynod a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu a beth y gallwn ni ei wneud i’w helpu.
Mae Bywyd Gwyllt Glaslyn yn awyddus i ariannu’r gwaith o osod hyd at 10 o flychau nythu i wenoliaid duon ar dai addas yn ardal Prenteg erbyn gwanwyn 2027.
Os oes gennych dŷ addas ac yr hoffech gael gosod blwch nythu gwennol ddu am ddim, dewch draw i gael gwybod mwy.
Helpwch ni i sicrhau dyfodol y Wennol Ddu!

