Dyma’ch cyfle i gwrdd â chyd-ddilynwyr ffrwd byw Glaslyn a sgwrsio mewn person yng nghanolfan Gweilch Glaslyn!

Ychydig cyn i’r Ganolfan Ymwelwyr gau am 16:30 ar ddydd Llun 6 Gorffennaf, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu gwahodd i ymuno â ni ar gyfer sgwrs gyda phanad a chacen yng nghuddfan John Parry. Cyflwyniad a sgwrs i’w gadarnhau.

Rhaid archebu eich lle am ddim drwy’r ddolen hon.

Edrychwn ymlaen at eich gweld!