Fel rhan o’n cydweithrediad â Chyfeillion y Gweilch, rydym yn falch iawn o rhannu newyddion cyffrous iawn ynglyn ag adar sy’n gysylltiedig â Glaslyn.

Roedden wrth ein boddau i ddeall fod Aran yn bridio ar nyth breifat lleol Cyfeillion y Gweilch gyda Glas 7C1 (Cumbria 2022), ni wyddom faint o wyau sydd ganddyn nhw. Mae 7C1 yn ferch i  Glas 9C (Glaslyn 2014) ac felly’n wyres i bâr gwreiddiol Glaslyn, Mrs G a 11(98). Ar ôl gweld Aran yn cael ei ddiarddel o nyth Glaslyn y llynedd, mae hyn yn newyddion gwych, ac mae’r ffaith bod gan y walches gysylltiad uniongyrchol â Glaslyn yn arbennig iawn.

Aran + 7C1

Mae Glas 499 (Glaslyn 2022) yn bondio gyda Glas 3C2 mewn nyth breifat a godwyd gan Gyfeillion y Gweilch ar Ynys Môn, gwalches Albanaidd a ddeorodd ar nyth ger Carrbridge, Aviemore ydy hi, lle cafodd ei modrwyo fel cyw ar 16/07/24. Gan mai dim ond dwy flwydd oed ydy 3C2, mae’n bosibl na fydd y pâr yn bridio eleni, er bod cofnodion o weilch dwy oed yn bridio, ac mae’n dal yn gynnar yn y tymor bridio. Mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn i’r pâr ifanc hwn.

Glas 499 + 3C2

Yn olaf, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod pâr o Weilch wedi ymgartrefu ar nyth Ty’n Llwyn, sef nyth newydd Cyfeillion Gweilch, a welir o Guddfan John Parry ym Mhont Croesor. Y Gweilch ydy Glas KS6 (Dyfi 2018) a Glas 019 (trawsleoliad Harbwr Poole 2019), sydd wedi symud o nyth arall Cyfeillion y Gweilch yn Nyffryn Glaslyn lle roedden nhw wedi bod yn bridio ers 2022.

Glas KS6 + 019

Llongyfarchiadau i Gyfeillion y Gweilch a’r holl dirfeddianwyr sy’n ymwneud â’r nythod hyn. Diolch hefyd i Gyfeillion y Gweilch am rannu’r delweddau ac i Don Cardy am ganiatáu inni ddefnyddio ei ddelweddau o 499.