
Dodwyodd Glas 014 yr wy cyntaf o’r tymor ar nyth Cyfeillion y Gweilch Pont Croesor am 18:29 nos Sul 18 Ebrill, gyda’i chymar Z2/Aeron wrth ei hochr.
Er na allen ni weld y wyau’n glir yn y nyth, o’i hymddygiad roedden ni’n eitha’ siŵr fod Glas 014 wedi dodwy ei hail wy am 14:40 pnawn ddydd Mawrth 21 Ebrill.
Dodwyodd Glas 014 drydydd wy am 11:55 bore Gwener 24 Ebrill.

