Gwnaeth un o gywion Aran ac Elen o 2023, sef Glas 0H2, ymddangosiad amserol ar Sul y Tadau pan ymyrrodd ar nyth Gweilch Dyffryn Wysg y bore ‘ma. Diolch i’r prosiect am y fideo. Mae’n newyddion gwych bod cyw o nythaid gyntaf Aran ac Elen wedi dychwelyd i Gymru!
Dyma’r trydydd o feibion Aran i’w gweld yng Nghymru’r tymor hwn gyda 498 a 499 (2022) eisoes wedi ymweld â Glaslyn a Dyfi yn yr wythnosau diwethaf.


