Dathlu Wythnos Gwrifoddolwyr!

Rydym wastad yn ddiolchgar am ein gwirfoddolwyr ymroddgar, ond mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi esgus i ni ddangos ein gwerthfawrogiad am bopeth maen nhw’n ei wneud.

Maen nhw’n gweithio’n galed i groesawu a siarad gydag ymwelwyr, gwneud gwaith cynnal a chadw, codi arian, gwarchod y Gweilch, a hyd yn oed helpu i adeiladu nyth newydd!

Ac wrth gwrs, rhaid i ni beidio ag anghofio ein helpwyr â phedair coes.

Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr a fydden ni ddim yn gallu gwneud hebddyn nhw.