Dydd Gwyl Dewi Hapus i holl ddilynwyr Gweilch Glaslyn!
 
Er gwaethaf y gwynt a’r glaw, mae arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd. Mae’r eirlysiau a’r cennin pedr yn eu blodau, mae’r brogaod yn silio ac eisoes mae’r adar yn canu ac yn dod o hyd i gymar cyn iddynt ddechrau adeiladu eu nythod. Wrth gwrs, dim ond un peth mae’r gwanwyn yn ei olygu yn Nyffryn Glaslyn! Mae’n nodi dychweliad ein Gweilch godidog.
 
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n lansio ein Hapêl Ffrydio Byw Blynyddol. Roedden ni wedi bwriadu switsio camera’r nyth ymlaen yn gynnar eleni i gyd-fynd â’r lansiad, ond wrth inni brofi’r system, mi ddaethon ni o hyd i nam. Ar hyn o bryd , nid ydyn ni’n gwybod os ydy’r nam yn gysylltiedig â’r tywydd a’r llifogydd ofnadwy neu a oes darn o offer hanfodol wedi torri. Byddwn yn siwr o’ch hysbysu o’r sefyllfa diweddaraf. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn gweithio’n galed dros y dyddiau nesaf i drwshio’r nam er mwyn switsio camera’r nyth ymlaen cyn gynted a phosib, i wneud yn siŵr nad ydyn ni’n colli unrhyw ymwelwyr annisgwyl â’r nyth – boed hynny yn gigfran aflafar neu gwiwer digywilydd neu hyd yn oed Gwalch cynnar! Byddwn yn barod am y foment arbennig honno pan fydd ein Mrs G eiconig yn glanio ar y nyth ar gyfer ei 17eg tymor, gydag Aran wrth ei chwt!
 
A fedrwch chi helpu ni godi £6,000 eleni?
 
Mae pedwar ffordd fedrwch chi wneud cyfraniad:
 
1. Gwneud cyfraniad drwy glicio ar ein tudalen Virgin Money Giving
 
2. Trwy’r botwm Paypal ar ein gwefan neu botwm ‘Donate’ ar Facebook
 
3. Trwy anfon siec yn daladwy i Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife i’n trysorydd
 
Trysorydd BGGW, 150, Rhosnesni Lane, Wrexham, Clwyd. LL13 9ES
 
4. Yn y Ganolfan Ymwelwyr pan fyddwn ni’n agor.
 
Diolch i’ch cefnogaeth chi mae’n bosib i ni gadw drysau’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor a’r camerâu byw ymlaen. Plis helpwch ni i gyrraedd ein targed eto eleni.
 
Diolch yn fawr!