
Bydd ymwelwyr â chanolfan bywyd gwyllt Gweilch Glaslyn wedi sylwi bod arwyddion gwybodaeth newydd wedi’u codi o gwmpas y safle.
Mae’r arwyddion newydd wedi’u cynllunio i helpu ymwelwyr i ganfod eu ffordd o gwmpas y Ganolfan ym Mhont Croesor, ac yn fwy cyson eu harddull. Fe’u codwyd gyda nawdd gan ein partneriaid Osprey Charging Network.
Meddai Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn, Gill Pritchard:
“Rydan ni’n hynod ddiolchgar i Rwydwaith Gwefru Osprey am eu cefnogaeth barhaus. Y llynedd fe wnaethant ariannu paneli dehongli newydd ar y safle yn ogystal â thelesgopau a meinciau picnic newydd. Mae’r holl bethau hyn yn help inni wella profiad ymwelwyr ym Mhont Croesor a gwneud y lle’n brif gyrchfan yng ngogledd Cymru i gyfeillion byd natur.”
Meddai Dora Clarke o gwmni Osprey:
“Mae’n bleser parhau efo’n partneriaeth gyda Bywyd Gwyllt Glaslyn eleni, a chyfrannu at waith pwysig ym maes cadwraeth ac addysg gyda’r gweilch yn y ganolfan ymwelwyr a’r prosiect yn ehangach. Mae ein staff a’n cwsmeriaid ni yn rhannu gwerthoedd y prosiect o ran gwarchod yr amgylchedd a chadw byd iachach er mwynhad cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Mae Osprey yn un o’r rhwydweithiau pwyntiau gwefru cyflym mwyaf ym Mhrydain i gerbydau trydan, gyda dros 500 o bwyntiau gwefru ar ffyrdd allweddol ac mewn trefi a dinasoedd. Mae’r rhwydwaith mynediad agored wrthi’n ehangu ar ei 60 o bwyntiau gwefru cyflym presennol yng Nghymru, sy’n cynnwys lleoliadau yn Llanelwy, y Trallwng, y Fenni a Chaerdydd. Mae pob uned wefru yn hawdd ei defnyddio trwy gyffyrddiad cerdyn banc, ac yn gallu ail-wefru car trydan cyffredin mewn 40-50 munud.
Ar un o’r arwyddion newydd wrth y fynedfa (yn y llun) mae llun o Glas 497, sef hanner-canfed cyw a anwyd y llynedd i walches Glaslyn, Mrs G. Er mawr lawenydd i’r prosiect gwelwyd yr aderyn ifanc yn Senegal ym mis Ionawr ar ôl mudo dramor yn llwyddiannus am ei aeaf cyntaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar Osprey i’w weld yn https://ospreycharging.co.uk/

