
Diolch o galon i Dave Rowlands, un o gefnogwyr ffyddlon Gweilch Glaslyn am gyfrannu’r paentiadau, pasteli a brasluniau hardd hyn o Mrs G ac Aran.
Gellir eu gweld a’u prynu yn y Ganolfan Ymwelwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu un, cysylltwch â ni drwy e-bost, info@glaslynwildlife.co.uk. Awgrymir eich bod yn casglu’r llun yn bersonol o’r Ganolfan, ond os nad ydy hynny’n bosib, gellir drafod trefniadau eraill â chi.
Pris y paentiad mawr ydy £200, mae’r pasteli yn £120 a’r brasluniau yn £80. Mae’r pastel o Aran eisoes wedi’i werthu.

