Elusen gweilch yn y Gogledd yn cyhoeddi prosiect cadwraeth bywyd gwyllt newyd.

Mae’r naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams wedi canmol prosiect cadwraeth newydd uchelgeisiol yn Nyffryn Glaslyn, Gwynedd.

Gan adeiladu ar eu llwyddiant yn gwarchod gweilch y pysgod dros ddau ddegawd, mae Bywyd Gwyllt Glaslyn bellach yn cychwyn ar bennod gyffrous newydd yn hanes yr elusen.

Y cynllun yw prynu 16 erw o borfa gorlifdir ar lan Afon Glaslyn, gan gynnwys safle ymwelwyr presennol Gweilch Glaslyn. Nod yr elusen yw adfer tir y Traeth Bach, sydd ar hyn o bryd dan reolaeth amaethyddol, yn hafan ffyniannus i fywyd gwyllt ac yn lle tawel braf i’r gymuned ei fwynhau.

Wrth blannu coed, creu llecynnau gwlyptir a thir pori dan reolaeth mewn cydweithrediad â ffermwyr lleol, bwriedir adfer porfa glan yr afon yn ddôl lawn bywyd, gan adfywio cynefinoedd lle gall planhigion a chreaduriaid brodorol fel llygod dŵr, dyfrgwn, y gïach, y gornchwiglen a’r gylfinir ffynnu.

Er mwyn codi’r £225,000 sydd ei angen i brynu’r tir ac adfer y cynefin, bydd y prosiect yn cyfuno arian sydd mewn llaw, grantiau a £35,000 i’w godi drwy apêl gyhoeddus.

Dros yr wythnosau nesaf byddant yn ceisio barn a chefnogaeth y gymuned leol mewn cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus.

Wrth gefnogi’r apêl gyhoeddus am £35,000, gwnaeth Iolo Williams fideo hyrwyddo arbennig yn ystod ymweliad diweddar â’r Ganolfan. “Mae hwn yn brosiect gwych,” meddai. “Mae Bywyd Gwyllt Glaslyn yn mynd i greu gwell cynefin i fywyd gwyllt a gwella ardal glannau Afon Glaslyn ynghyd â gosod llwybr ar hyd yr afon i chi ei fwynhau. Dwi’n gwybod ei bod hi’n anodd yn ariannol ar hyn o bryd, ond os gallwch chi, plîs rhowch yn hael.”

Meddai Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Gill Pritchard: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r elusen a bydd yn gyfle gwych i Fywyd Gwyllt Glaslyn wneud gwahaniaeth i fyd natur yn nyffryn Glaslyn. Hoffwn ddiolch i Iolo Williams, sydd wedi bod yn gefnogwr mawr i’n prosiect ers blynyddoedd, am gefnogi ein menter newydd.”

Gweld/lawrlwythwch ein taflen apêl yma.

Dydi hi’n dal ddim yn rhy hwyr i weld gweilch y pysgod yn Nyffryn Glaslyn cyn iddyn nhw gychwyn ar eu taith aeafol i Affrica.

Bydd y Ganolfan ger Porthmadog yn agored rhwng 10:30 a 16:30 bob dydd tan ddydd Sul 14 Medi.