Er bod nyth Gweilch Glaslyn wedi methu eleni, rydym wedi’n cyffroi gan y posibilrwydd fod pâr Hebog yr ehedydd yn debygol o fod yn bridio ger nyth y Gweilch. Ein golwg gyntaf o’r ddau Hebog oedd ar Fai 12. Clywsom eu galwadau’r diwrnod cynt, yna cawsant eu cofnodi bron bob dydd.

Gwelsom y pâr ddiwethaf ar noson Mehefin 10, pan welwyd hwy yn paru yn un o’r coed derw y tu ôl i nyth y Gweilch. Roedd y fenyw wedi treulio oriau lawer yn clwydo yn yr ardal honno ac roedd y gwryw yn danfon bwyd iddi yno.

Roedd yn ddiddorol nodi tra’r oedd y pâr yn defnyddio’r goeden hon yn rheolaidd, fod Elen a KC6/Teifi wedi osgoi clwydo yn yr ardal benodol honno. Ar Fehefin 11, clwydodd KC6/Teifi ar y goeden farw am y tro cyntaf ers ychydig wythnosau a dechreuodd pâr Gweilch Glaslyn glwydo a bwydo yno’n rheolaidd eto. Dangosodd hyn fod yr iâr Hebog yr ehedydd yn debygol o fod yn gori wyau.

Er nad ydym wedi lleoli’r nyth eto, yn bennaf er mwyn osgoi aflonyddwch yng nghyfnodau cynnar eu cylch bridio, mae gwirfoddolwyr yn y Caban Gwarchod wedi cofnodi’n rheolaidd yr Hebogiaid yn hela ac rydym wedi cael gweld Hebog yr ehedydd ar hyd yr afon ym Mhont Croesor, sydd o fewn pellter chwilota bwydo’r adar o hyd at 6km.

Nid yw Hebog yr ehedydd yn adeiladu eu nythod eu hunain, ond maent yn amlaf yn defnyddio nythod Brain. Mae gori fel arfer yn para rhwng 28 a 32 diwrnod, sy’n golygu y gallai’r 2-4 wy ddechrau deor yn fuan iawn. Y cyfnod o ddeor i hedfan yw 28 i 34 diwrnod ac mae’r rhai ifanc yn aros gyda’r fenyw o amgylch yr ardal nythu am tua 2 i 3 wythnos cyn ymestyn eu hamrediad dros y 2 wythnos ganlynol. Gobeithio y dylem weld cynnydd yng ngweithgarwch yr Hebogiaid yn fuan os yw’r ymgais bridio yn llwyddiannus, ac wrth i’w tymor bridio ddechrau’n hwyrach na Weilch y pysgod, efallai y byddant yn dal i fod yn weithgar ar ôl i’r Gweilch adael.

Mwynhewch y fideo o ymddangosiad diwethaf y pâr ar gamera!