Rydym ni’n falch iawn o allu cadarnhau bod dau bâr o weilch bridio Dyffryn Glaslyn wedi aduno yn eu nythod priodol.

Dychwelodd Aran i’r nyth yng Nglaslyn brynhawn ddydd Sul, i ddarganfod nad oedd Mrs G yno i’w groesawu adref. Yn y cyfamser, roedd Mrs G dal gyda Z2/Aeron ar nyth Cyfeillion y Gweilch Pont Croesor,

Yn ffodus, fore dydd Llun, fe ddychwelodd Glas 014, y gwalch benyw a fagodd un cyw yn llwyddiannus gyda Z2 y tymor diwethaf, i’r nyth ym Mhont Croesor. Cafodd Mrs G ei hêl i ffwrdd yn fuan gan Glas 014, ac erbyn nos Lun roedd Mrs G yn ôl ar y nyth yng Nglaslyn gydag Aran, ac roedd Z2 a 014 yn ôl gyda’i gilydd ar y nyth ym Mhont Croesor.

Erbyn bore dydd Mawrth roedd y ddau gwalch gwryw yn gweithio’n galed, yn dod â ffyn a deunyddiau nythu i’w nythod ac yn mynd allan i bysgota er mwyn darparu ar gyfer eu cymheiriaid.

Er bod Mrs G wedi bod yn paru gyda Z2, mae’n debyg ar y cyfnod hwn o ddatblygiad y bydd unrhyw wyau yn cael eu hadamsugno. Fodd bynnag, pe byddai hi’n dodwy wy yn y dyddiau nesaf, mae’n debygol iawn y byddai Aran yn cael gwared ar yr wy, neu yn ei dorri, gan y byddai’n gwybod nad ei gyw o fyddai hwnnw.