Dim ond am ryw bum mis y flwyddyn y mae gweilch pysgod Prydain yn bresennol yn eu tiriogaethau nythu. Maen nhw’n treulio gweddill eu hamser yn eu safleoedd gaeafu. Bydd nifer fach o adar o Orllewin Ewrop yn gaeafu ar Benrhyn Iberia, ond mae’r mwyafrif helaeth yn teithio ymhellach i’r de i ranbarthau arfordirol Gorllewin Affrica. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae bob amser yn braf darllen adroddiadau am ein Gweilch Glaslyn a’r rhai rydyn ni’n eu cofnodi yn Nyffryn Glaslyn, gan bobl fel yr adaregydd Jean-marie Dupart yn Senegal a’r tîm yn Arsyllfa Adar Kartong yn Gambia.

Arsyllfa Adar Kartong – Gwalch y Pysgod

Pan fethodd ein gwalches hoff Mrs G â dychwelyd yn 2023 ar ôl bron i 20 mlynedd, fe benderfynon ni yr hoffen ni dalu teyrnged i’w chyfraniad mawr trwy gefnogi cadwraeth yng Ngorllewin Affrica. Er cof amdani, fe benderfynon ni gyfrannu at Sefydliad Arweinyddiaeth y Gweilch (Osprey Leadership Foundation – OLF), elusen Prydeinig sy’n anelu at ysbrydoli a galluogi arweinwyr cadwraeth ifanc ar hyd llwybr hedfan y gweilch, yn enwedig yn Gambia.

Emmanuel yn defnyddio sbienddrych

Trwy ein cysylltiadau â Dr Tim Mackrill o OLF, yn 2024 cawsom y pleser o groesawu Emmanuel Jatta, modrwywr adar a chynorthwyydd ymchwil o Arsyllfa Adar Kartong, yn ystod rhan o’i arhosiad pedwar mis yng ngwledydd Prydain. Roedd Emmanuel yn llysgennad gwych dros Gambia ac Arsyllfa Kartong. Bu’n ymweliad cofiadwy gyda sawl uchafbwynt, gan gynnwys ail gyfarfyddiad Emmanuel â gwalch Llyn Brenig LJ2, aderyn roedd o wedi ei drafod ar ôl iddo gael ei ddal mewn “rhwyd niwlen” yn ystod arolwg yn Kartong. Ar ei ddiwrnod olaf yma, creodd Emmanuel hanes fel y Gambiad cyntaf erioed i roi modrwy ar gyw gwalch yng Nghymru – a Phrydain!

Emmanuel gyda gwalch

Ym Mehefin 2026 gobeithiwn groesawu Naffie Sarr, un o gydweithwyr Emmanuel o Arsyllfa Kartong. Yn ddiweddar, bu Naffie ar gwrs undydd gyda Chlwb Adar a Natur Prosiect Gunjur, lle caiff Gambiaid ifanc ddysgu dod yn arbenigwyr ar y gweilch. Ar drip modrwyo diweddar gan y tîm, cafodd Emmanuel syrpreis annisgwyl pan ddaliwyd gwalches i’w mesur yn ystod arolygon rhwyd niwlen o’r gwlyptiroedd yn Arsyllfa Adar Kartong. Yn ddiweddarach, yn ystod yr un trip, daliwyd dau walch arall. Adar heb eu modrwyo oedd y rhain i gyd, felly gosodwyd modrwyau lliw y BTO a Darvic arnynt dan drwydded. Bydd yn ddiddorol iawn darganfod a ddeuant i’r fei yn rhywle yng Ngorllewin Ewrop yn y dyfodol.

Emmanuel a Naffie

Mae Bywyd Gwyllt Glaslyn yn falch iawn o allu parhau i gefnogi Sefydliad Arweinyddiaeth y Gweilch ac Arsyllfa Adar Kartong yn y gwaith cadwraeth pwysig yn Gambia.

https://ospreyleadershipfoundation.com
https://kartongbirdobservatory.com

Rhywogaethau adar diddorol eraill sydd wedi’u modrwyo gan Arsyllfa Adar Kartong.

Y barcud ysgwydd-ddu cyntaf i’w ddal gan yr Arsyllfa
Môr-wennol fawr Gorllewin Affrica
Hebog ehedydd Affrica