Dyma’ch cyfle i gwrdd â chyd-ddilynwyr ffrwd byw Glaslyn a sgwrsio mewn person yng nghanolfan Gweilch Glaslyn.

Estynwn wahoddiad i chi ymuno gyda ni ar 7 Gorffennaf ar gyfer panad a darn o fara brith yng nghuddfan John Parry lle bydd Gail Edgley yn rhoi sgwrs fer o’r enw “Ymgyrch Jimmy” lle mae hi’n adrodd y gwaith ataliol arloesol a gychwynnodd ddeng mlynedd yn ôl yn dilyn marwolaeth drasig gwalch y pysgod ifanc a gafodd ei drydanu ar bolyn pŵer ger Pentrefoelas. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar y diwedd.

Rhaid archebu eich lle am ddim drwy’r ddolen hon.