
Mae ein gwirfoddolwyr ffyddlon wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer agoriad y Ganolfan Ymwelwyr, ond yn anffodus, oherwydd y pryderon ynghylch Coronavirus (COVID-19) mae agor y Ganolfan Ymwelwyr wedi’i ohirio hyd nes bydd y sefyllfa yn gliriach. Yn ogystal â’r pryderon ynghylch yr achosion o Coronavirus, mae cyflwr safle Pont Croesor yn peri pryder ar hyn o bryd ar ôl y llifogydd, yn enwedig o gwmpas safle’r Ganolfan Ymwelwyr a’r ardaloedd parcio i’r anabl. Rydym yn siŵr eich bod yn gwerthfawrogi bod iechyd a diogelwch ein staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr o’r pwys mwyaf i ni.
Er nad yw’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor, mae’r camera ymlaen yn barod i ddal y gwalch cyntaf yn glanio ar y nyth.

