Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein Apêl Traeth Bach wedi casglu dros £30,000, diolch i’r holl roddion eithriadol o hael gan ein cefnogwyr niferus yn y wlad yma a thramor.

Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu ac wedi’n helpu ni i gyrraedd gam yn nes at wireddu ein cynlluniau cadwraeth cyffrous.

Ein nod ydi prynu 16 erw o borfa gorlifdir ar lan Afon Glaslyn, gan gynnwys safle ymwelwyr presennol Gweilch Glaslyn, ac adfer y tir, sydd dan reolaeth amaethyddol ar hyn o bryd, yn hafan ffyniannus i fywyd gwyllt ac yn lle tawel braf i’r gymuned ei fwynhau.

Ers inni ffarwelio â’r gweilch ym mis Medi mae wedi bod yn gyfnod prysur i’n hymddiriedolwyr a’n gwirfoddolwyr.

Cawsom gyfres o ddiwrnodau agored i roi cyfle i gadwraethwyr, ffermwyr a phobl leol ddysgu mwy am ein prosiect Traeth Bach. Diolch i bawb a ddaeth ac am y gefnogaeth a’r adborth gwerthfawr.

Rydyn ni’n gweithio’n galed rŵan i ddatblygu ceisiadau am grantiau amrywiol, a fydd, gyda’r arian sydd gennym mewn llaw a’ch rhoddion hael chi, yn ein galluogi i gyrraedd y £225,000 sydd ei angen i wireddu ein cynlluniau.

Wrth gwrs, fe rown wybod ichi am unrhyw ddatblygiadau pellach.

Diolch eto am eich cefnogaeth ddiwyro i warchod byd natur yn Nyffryn Glaslyn.

I gael gwybod mwy ewch i https://www.glaslynwildlife.co.uk/cy/traethbach-appeal/.