Mae ein gwirfoddolwyr yn ymgymryd â’r Her 2.6 ac rydym eisiau i CHI i ymuno â ni!

Mae’r Her 2.6 yn ymgyrch codi arian cenedlaethol sy’n helpu i godi arian hanfodol i elusennau’r DU sydd wedi cael eu heffeithio gan ganslo digwyddiadau codi arian fel Marathon Llundain oherwydd Covid-19.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw rhedeg neu gerdded 2.6 milltir ar ddydd Sul 26ain Ebrill a thagio ni yn eich lluniau. Byddwn yn rhannu eich ymdrechion gyda’n dilynwyr a gobeithiwn allu godi rhywfaint o arian yr un pryd.

Os nad allwch chi redeg na cherdded ond rydych dal eisiau cyfrannu, gallwch noddi ein rhedwyr a’n cerddwyr yma.

https://uk.virginmoneygiving.com/BGGW2.6

Cofiwch fod rhaid i’ch gweithgaredd gadw at ganllawiau’r Llywodraeth ynglŷn ag ymarfer corff a phellhau cymdeithasol.

Diolch.