Bydd dilynwyr yn cofio ein bod ni wedi dyfalu bod pâr o hebogiaid ehedydd wedi gwneud ymgais aflwyddiannus i fridio ger nyth Glaslyn yr haf diwethaf, wedi i lawer eu gweld ar gamera.

Dydi hebogiaid ehedydd ddim yn adeiladu eu nythod eu hunain, felly cawsom gyngor gan yr arbenigwr ar adar ysglyfaethus Jimmi Hill dros y gaeaf, a gosod dau nyth basged artiffisial mewn coed derw yn agos at nyth Glaslyn ond yn ddigon pell fel na fyddai’r hebogiaid a’r gweilch yn tarfu ar ei gilydd. Gobeithio y gwneith hyn helpu unrhyw ymdrechion bridio pe bai’r adar hardd hyn yn dychwelyd i’r Dyffryn yn yr wythnosau nesaf. Rydym wedi gosod camerâu diogelwch solar Reolink i edrych i lawr ar y basgedi felly byddwn yn gallu cadw llygad ar unrhyw weithgaredd. Rhown wybod ichi os bydd unrhyw ddatblygiadau.