Trist iawn yw nodi na fyddwn bellach yn gallu bwrw ymlaen â’n bwriad i brynu tir Safle Pont Croesor, y maes parcio a’r cae cyfagos, a elwir Traeth Bach.

Yn anffodus, mae perchnogion y tir wedi penderfynu tynnu’n ôl o’r trafodaethau am resymau busnes. Rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod heriol i’r gymuned ffermio a doedd hyn ddim yn benderfyniad hawdd i’r perchnogion, yn enwedig gan mai nhw ydi ein landlord a’u bod nhw wastad wedi bod yn gefnogol iawn i ni. Roedd hwn yn brosiect mor gyffrous ac rydyn ni i gyd mor drist na fydd yn digwydd rŵan.

Roedden ni wedi gobeithio datblygu ardal Traeth Bach yn ddôl bywiog ar lan yr afon lle gallai bywyd gwyllt brodorol ffynnu. Fel elusen gadwraeth, roedden ni wedi gobeithio bod yn rhan o’r fenter adfer natur yng Nghymru i warchod ac adfer cynefinoedd. Ond dydi popeth ddim ar ben. Er na fydd ein cynlluniau ar gyfer y Traeth Bach yn cael eu gwireddu, rydyn ni eisiau datblygu ein safle presennol ym Mhont Croesor ac ardal y maes parcio i fod yn natur-glên trwy blannu gwrychoedd a sefydlu dôl blodau gwyllt a gwlyptir. Mae gwella bioamrywiaeth, hyd yn oed ar ddarn llai o dir, yn beth gwerth chweil.

Y bwriad oedd ariannu prosiect Traeth Bach drwy ddefnyddio cronfeydd presennol, cyllid grant ac apêl a lansiwyd gennym ddiwedd Awst 2025 gyda chefnogaeth y naturiaethwr Iolo Williams. Fe gawson ni ymateb anhygoel gan aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr a chyrraedd ein nod o £35,000 yn hawdd.

Rydyn ni’n ymwybodol bod llawer ohonoch chi wedi cyfrannu’n hael yn benodol tuag at brosiect Traeth Bach, ac yn deall yn iawn, gan nad ydi hwnnw bellach yn digwydd, y gallech chi benderfynu i rhoi’ch rhodd i elusen neu apêl wahanol. Os felly, byddwn yn hapus i ddychwelyd unrhyw rodd a wnaethoch i’n hapêl, dim ond ichi anfon cais ataf i ar gill@glaslynwildlife.co.uk

Fel arall, er mai datblygiad llai o faint fydd yn digwydd ar safle Pont Croesor bellach, hwyrach y dewiswch adael eich rhodd gyda ni er mwyn cefnogi’r cynllun hwn ynghyd â mentrau eraill sydd gennym ar y gweill.

Mae ein hymroddiad i warchod y Gweilch yn Nyffryn Glaslyn yn dal i fod mor gryf ag erioed ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dymor newydd a blwyddyn lwyddiannus, gobeithio, ar nyth Glaslyn.

Gill Pritchard, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Bywyd Gwyllt Glaslyn