
Rydym bellach wedi cwblhau rhaglen ein penwythnos Gŵyl y Gweilch ar 10 ac 11 Awst a fydd yn canolbwyntio ar gyfres o sgyrsiau yng Nghuddfan John Parry a’r prif siaradwr ar y ddau ddiwrnod fydd y cadwraethwr natur uchel ei barch Dr Tim Mackrill.
Gall gwesteion gadw lle ar Eventbrite ar y ddolen atodedig ar gyfer y sgyrsiau a fydd yn cynnwys mudo Gweilch y Pysgod, ailgyflwyno Eryrod y Môr ym Mhrydain, hanes, archaeoleg a bywyd gwyllt Dyffryn Glaslyn, ac adar mewn traddodiad a llên gwerin.
Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.
Mae tocynnau am ddim ond croesewir rhoddion.


