Helfa Ffwng
Dyddiad: 12 Hydref 2024
Amser: 11:00-13:00

Ymunwch efo ni ar Helfa Ffwng yng Nghoedlan Hafod Garegog (Gyda chaniatâd caredig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Rhodd awgrymedig yw £5 y person, sy’n cynnwys taith gerdded o 2 awr dan arweiniad Cynan Jones, arbenigwr Ffyngau a lluniaeth ysgafn (te/coffi a chacen) yn y Ganolfan Ymwelwyr wedyn. Telir ar ddiwrnod y daith os gwelwch yn dda.

Llefydd yn brin. Rhaid archebu lle o flaen llaw drwy e-bostio heather@glaslynwildlife.co.uk

Gwisgwch esgidiau a dillad sy’n addas ar gyfer taith gerdded goetir mwdlyd, os gwelwch yn dda. Gan ddibynnu ar y tywydd gall rhai ardaloedd fod yn anwastad, llithrig a chorslyd ac mae llethr ysgafn wrth i ni fynd i mewn i’r coetir a dod allan.

Bydd angen goruchwylio plant yn gyson.