Ymunwch efo ni ar Helfa Ffwng yng Nghoedlan Hafod Garegog (Gyda chaniatâd caredig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Cychwyn am 10.00 o’r gloch o’r Ganolfan Ymwelwyr, Pont Croesor.
Arweinydd: Cynan Jones
Rhodd Awgrymedig: £2.50 yr oedolyn

Gan bod parcio’n gyfyng iawn, awgrymir rhannu ceir o’r Ganolfan Ymwelwyr i’r man gwarchod lle mae’r dro yn cychwyn am 10.30 o’r gloch. Bydd y dro ei hun yn parhau tua 2 awr ac yn gorffen gydag ymweliad â’r Ardd Fadarch yn Nantmor lle bydd Cynan yn coginio’r madarch ar gyfer eu blasu. Bydd angen esgidiau a dillad addas ar gyfer taith trwy’r goedwig. Gall rhai mannau fod yn lithrig a chorslyd. Bydd angen goruchwylio plant yn gyson.