Sadwrn 24ain + 31ain Awst am 7:30yh.

Ymunwch â’n Taith Ystlumod o ganolfan ymwelwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn. Rydym yn debygol o glywed Ystlum Mawr, Ystlum y Dŵr, Ystlum Lleiaf ac Ystlum Lleiaf Uchelsain. Mae’n achlysur cyffrous eu clywed yn agos felly peidiwch â cholli’r cyfle!

Addas ar gyfer plant ac oedolion. Gwisgwch ddillad cynnes a gwrth-ddŵr a dewch a thortsh gyda chi.
Rhodd awgrymedig £2.50 yr oedolyn.