
Dydd Sadwrn yma, yn Gweilch Glaslyn, bydd croeso cynnes yn aros grŵp o bobl Wcreinaidd sydd bellach yn byw mewn cymunedau lleol yn yr ardal.
Cânt daith VIP o gwmpas y prosiect ym Mhont Croesor a bydd cyfle iddyn nhw glywed yr hanes am sut ddaeth gweilch y pysgod i bridio’n llwyddiannus yn Nyffryn Glaslyn.
Fe fydd gwirfoddolwyr wrth law i roi cipolwg diddorol dros ben ar fywydau y gweilch a’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar y nythod eleni, a welir drwy’r thelesgopau o’r Ganolfan Ymwelwyr a’r Guddfan.
Dywedodd Gwenan Williams, Trysorydd yr elusen, sydd wedi trefnu’r ymweliad:
“Roedden ni eisiau dangos ein cefnogaeth i deuluoedd Wcreinaidd yn ein cymunedau ar adeg dirdynnol yn eu bywydau a rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â gwladolion eraill Wcreinaidd mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Gobeithio y byddan nhw’n mwynhau ymweld â Dyffryn hardd Glaslyn, a gobeithiwn hefyd y bydd un neu ddau o weilch yn gwneud ymddangosiad uwchben!’’
Mae Mrs G, gwalch bridio hynaf Cymru, hyd yn gwyddom, a’i phartner Aran, wedi magu tri chyw iach yn llwyddiannus eleni. Bellach yn ei 19fed tymor yn Nyffryn Glaslyn, mae Mrs G yn meddu ar linach helaeth, gyda rhai o’i 44 epil yn bridio yng ngwledydd Prydain.
Yn gynharach yn y mis daeth newyddion cyffrous bod un o gywion Mrs G ac Aran o 2018 yn bridio yn Swydd Efrog – y nyth gwalch y pysgod cyntaf yn y sir honno yn yr oes fodern.
Mae Gweilch Glaslyn ar agor bob dydd o’r wythnos rhwng 10.30am a 4.30pm nes bod yr adar yn mudo ym mis Medi.
