
Sôn am flwyddyn mae hi wedi bod i bob un ohonom! Wrth i 2021 ddirwyn i ben, mae’r coronafeirws yn parhau i blagio ein bywydau ac yn cyfyngu ar ein rhyddid i gyfarfod yn ddiogel â theulu a ffrindiau. Er iddi hi fod yn flwyddyn heriol arall i ni yn BGGW, o leiaf roedden ni wedi gallu agor ein safle Gwylio a’r Ganolfan Ymwelwyr, gyda mesurau diogelwch Covid-19 priodol ar waith drwy gydol y tymor.
Byrhoedlog oedd ein llawenydd wrth i Mrs G ac Aran ddychwelyd diwedd mis Mawrth, wrth i ni wylio’r cywion ifanc yn trengi yn y nyth ac Aran yn cael anaf difrifol i’w aden a’i atalodd rhag pysgota. Diolch i’n gwirfoddolwyr ymroddedig a ddarparodd bysgod ychwanegol am wythnosau lawer yn ystod mis Mai a mis Mehefin, gwelsom Aran yn gwella’n llawn ac yn llwyr. Roedd eich geiriau o anogaeth a chefnogaeth yn ystod cyfnod mor bryderus yn stori Gweilch Glaslyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan staff a gwirfoddolwyr.
Gyda’n gilydd fe lwyddon ni! Mae ein Hapêl Cuddfan Newydd wedi cyrraedd ei tharged o £35,000! Roedd yn briodol ac yn deimladwy mai rhoddion o dros £800 er cof am ein cyfaill annwyl John Parry Williams a ddaeth â ni i’r swm terfynol. Byddai JP wedi bod wrth ei fodd. Diolch yn fawr i bawb ohonoch chi am eich cefnogaeth hael a gwerthfawr i’n Hapêl – ni allem fod wedi’i wneud hebddoch chi. Mae’r hen guddfan bellach wedi’i dymchwel a bydd y gwaith ar yr adeilad newydd yn dechrau’n fuan.
Ar ran bawb yn BGGW, dymunaf Flwyddyn Newydd iach a hapus i chi a’ch teuluoedd. Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus i Weilch Glaslyn, gan obeithio y bydd ein Mrs G eiconig yn dychwelyd am ei phedwaredd blwyddyn ar bymtheg.
Gwenan Williams, Cadeirydd BGGW
