Archive | Blog

RSS feed for this section
D2V3CgYX4AA95bx.jpg-large

Heulwen o’r Diwedd

O’r diwedd, mae’r glaw wedi darfod ac rydym wedi croesawu wynebau newydd (a hen) i’r Ganolfan Ymwelwyr yr wythnos hon. Mae’n braf bod yn ôl! Gyda’r glaw trwm a llifogydd ar ddechrau’r wythnos, roedd ein gwaith o baratoi’r Ganolfan Ymwelwyr ar gyfer yr agoriad yn mynd yn anos bod dydd. Ond diolch byth am ein […]

PhotoGrid_1551984807183

Gwirfoddolwyr BGGW yn Rhannu eu Hoff Lyfrau ar Ddiwrnod y Llyfr

Ar Ddiwrnod y Llyfr 2019, mae gwirfoddolwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn yn rhannu eu hoff lyfrau natur a bywyd gwyllt. Judith Mills: Ar hyn o bryd dwi’n darllen The Living Mountain gan Nan Shepherd ysgrifennwyd tua 60 mlynedd yn ôl. Llyfr am ei dealltwriaeth hi o fyd natur y Cairngorms. Mae’r llyfr yn fy atgoffa i o sut dwi’n […]

5F Feb 2019 Chris Wood

Dechrau Tymor Gweilch y Pysgod 2019

Chwefror. Mae’r dyddiau yn dechrau ymestyn, mae’r boreau yn fwynach a’r cennin pedr yn deffro i gyfarch yr haul. Mi fydd y gwanwyn yma cyn bo hir. Ond mae un peth arall yn gwneud i ni yn BGGW deimlo fod y gwanwyn wedi cyrraedd go iawn; gweld gwalch y pysgod yn hedfan uwchben dyffryn y […]

KS2 and Mrs G Nest Q6035_2018-09-01_09_03_59_144

Newid Tymhorau

Gyda mis Medi daw newid. Mae’r haf yn troi’n hydref, mae’r nosweithiau’n mynd yn fyrrach ac mae’r dail yn dechrau crino a disgyn i’r llawr. Mae newid mawr ar drothwy i Fywyd Gwyllt Glaslyn hefyd. Cyn bo hir fydd gweilch y pysgod y Glaslyn yn ein gadael i dreulio’r gaeaf yn y de; Gorllewin Affrica […]

Gweithgareddau’r Haf

Dros yr haf mae gennym nifer o weithgareddau ar gyfer plant ac oedolion. O dro ystlumod i helfa ffwng gwyllt, mae digon i’ch diddori. Mae ein clwb natur i blant, Clwb Gweilch Glaslyn, yn cwrdd yn wythnosol ar ddyddiau Iau. Mae manylion y gweithgareddau yn y poster isod. Digwyddiadau BGGW: (Rhodd awgrymedig £2.50) Sadwrn 25 […]

37304839_1065393013610949_4851264396619415552_n

Hediad Cyntaf Cywion 2018

Does dim yn fwy cyffrous na gwylio cyw yn gwneud ei hediad cyntaf. O’r diwrnod trodd y cyw hynaf, KS3 yn 49 ddiwrnod oed, doedd neb eisiau tynnu eu llygaid oddi ar y nyth. Doedd y cywion ddim ar hast i adael fodd bynnag. Er bod y ffenest yn agor i gyw adael y nyth […]

Nest Q6035_2018-07-03_16_46_24_947

Y Cywion yn cael eu modrwyo

Fel mae nifer o aelodau a chefnogwyr BGGW wedi dyfalu, un gwalch gwryw a dwy fanw sydd gan Mrs G ac Aran eleni. Yn ystod y modrwyo nos Lun yr wythnos hon, roedd y ddwy fanw yn pwyso cryn dipyn yn fwy na’r uchafswm o 1500g yr oedd y glorian yn ei fesur, a’r gwryw […]

35476233_1032718773545040_8804898821856296960_n

Diogi yn yr haul

Mae’r tywydd braf ‘ma yn gallu gwneud rhywun yn ddiog. Rydyn ni gyd yn symud ychydig yn arafach, yn chwilio am rywle braf i gysgodi a diogi. Rhywbeth tebyg i’r cywion bach yn cysgu’n swrth dan adenydd eu ‘mambarél’. Nid yw Aran druan mor ffodus. Profodd eto ei fod yn bysgotwr talentog ar ddydd Sul […]