Cyw Cyntaf 2019 yn Deor!

Mae cyw cyntaf 2019 wedi deor ar nyth y Glaslyn!

Wnaeth y cyw cyntaf ddeor am 11:42 bore ‘ma.

Roed tolc bach i’w weld yn yr wy hwyr neithiwr ac erbyn y bore roedd yn glir bod y deor yn datblygu’n dda. Roedd y cyw yn rhydd o’r plisgyn erbyn 11:42.

Rydym yn falch o rannu’r newyddion cyffrous yma ar ôl wythnos mor bryderus!