Mrs G yn Dychwelyd!

NEWYDDION GWYCH!

Mae Mrs G wedi dychwelyd am yr 16eg flwyddyn!

Treuliodd ychydig o amser yn mynd ar drywydd y brain oedd ar y nyth wedi iddi lanio am 9:08 bore ‘ma.

Gwyliwch y fideo o’r foment mae Mrs G yn dychwelyd.

 

Hyd yma, mae Mrs G wedi deor 40 o gywion gyda 36 o’r rheiny yn gadael y nyth yn llwyddiannus. Rydym hefyd yn gwybod ei bod hi’n ‘nain’ i o leiaf 74 o gywion eraill.

Dyma’r 16eg flwyddyn iddi ddychwelyd i fridio, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut fydd y tymor yn datblygu.

Croeso’n ôl, Mrs G!