Disney World: Ymyrryd â Gweilch y Pysgod a Modrwyo


Yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd o Fforwm Gweilch y Pysgod Cymru yn ystod gaeaf 2016/17, fe gyhoeddir y datganiad cyfunol hwn gan Bywyd Gwyllt Glasyn Wildlife ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn yn ymwneud â nythod gweilch y pysgod Glaslyn a Dyfi.

Amser maith yn ôl, mewn gwlad nid nepell i ffwrdd, fe safai nyth gwalch y pysgod. Bob blwyddyn dychwelai’r un pâr o adar i’w nyth gan lwyddo i fagu dau neu dri o gywion – ni chafwyd problemau, afiechyd, anafiadau, damweiniau na digwyddiadau o unrhyw fath. Dim ond llond nyth o gywion del ac iach bob blwyddyn, a llawer ohonynt blynyddoedd yn ddiweddarach yn dychwelyd fel oedolion o Affrica, ac yn magu teuluoedd eu hunain.

  Mae Ceiliog Glaslyn yn dychwelyd am flwyddyn lwyddiannus arall o fridio yn 2005
 Mae Ceiliog Glaslyn yn dychwelyd am flwyddyn lwyddiannus arall o fridio yn 2005

Wrth gwrs, fe wyddom mai anaml iawn mae’r sefyllfa yma yn bodoli yn y byd go iawn – felly sut ddigwyddodd hyn ar nyth Glaslyn am bron i ddegawd?

Mae ffigwr Gwledydd Prydain ar gyfer cynhyrchiant blynyddol nyth gwalch – y nifer o gywion sy’n mynd dros y nyth yn flynyddol – yn isel a bydd yn eich synnu, mae’n siwr. Mae ychydig bach yn uwch nag un cyw y nyth bob blwyddyn. Er hynny, am y 10 mlynedd cyntaf mi gawsom doreth o gywion yn Glaslyn – dau, neu fel arfer tri, bob blwyddyn, gan herio’n llwyr y cyfartaledd cenedlaethol cymaint â 200% a 300%.

Ar ben hynny, mae cyfartaledd cenedlaethol Cymru rhwng y pedwar nyth yn dal i fod dros ddau gyw y nyth heddiw – dwbl cyfartaledd Gwledydd Prydain. Beth sy’n mynd ymlaen tybed?

  Y blynyddoedd toreithiog  - cynhyrchiant cywion Glaslyn am y 10 mlynedd cyntaf.
Y blynyddoedd toreithiog – cynhyrchiant cywion Glaslyn am y 10 mlynedd cyntaf.

Mae dau brif reswm am y llwyddiant annhebygol hwn – dynameg sylfaenol poblogaethau a lwc.


Ecoleg

Mae Gweilch y pysgod yn adar heidiol, sy’n anghyffredin i adar ysglyfaethus., Maent yn hoffi gweilch eraill o’u cwmpas, sef yr hyn a elwir yn ‘lled-drefidigaethol’.

Mewn poblogaeth sydd wedi normaleiddio, mae gweilch yn nythu mewn nythfeydd llac, a all gynnwys rhai cannoedd o nythod, mewn cyflwr ecolegol a elwir yn homeostasis. Rheolir y cydbwysedd mewn poblogaeth y gweilch gan yr egwyddor a elwir yn ddibyniaeth ar ddwysedd (y boblogaeth), sy’n ffordd ffansi o ddweud y rheolir y cyfraddau twf gan y nifer o unigolion mewn poblogaeth. Mae hyn yn broses ecolegol gydnabyddedig sy’n rheoli ecoleg poblogaeth bron iawn ar gyfer pob organeb byw, o facteria, parasitiaid, planhigion ac anifeiliaid.

Am nifer o flynyddoedd, un yn unig oedd cyfanswm cyfunol y nythod bridio ym mhoblogaeth Cymru. Yna roedd dau. Nid poblogaeth wedi’i normaleiddio’ mo hon, ond yn hytrach yr hyn a elwir yn boblogaeth sy’n gwella, ac mae’n sefyllfa hollol annaturiol, sy’n gwbl amddifad o’r cyfyngiadau arferol a roddir ar boblogaethau gan effeithiau negyddol dibyniaeth ar ddwysedd, megis gorboblogi, y cynnydd mewn ysglyfaethu, a‘r cystadlu am fwyd, cymheiriaid, nythleoedd ac adnoddau eraill.

 Poblogaeth gweilch y pysgod bridio yng Nghymru trwy’r 2000au – dau aderyn
Poblogaeth gweilch y pysgod bridio yng Nghymru trwy’r 2000au – dau aderyn

Canlyniadau anochel (diolch byth) poblogaethau sy’n amddifad o effeithiau negyddol dibyniaeth ar ddwysedd yw fod cynnydd mewn cynhyrchiant. Dyma’n union yr hyn a welsom, ac a oedd yn ddisgwyliedig, yn nyth Glaslyn am yr holl flynyddoedd rheiny.


Lwc

Ydy, mae esblygiad yn ffafrio’r mwyaf cymwys, ond hefyd y mwyaf lwcus. Nid yw detholiad naturiol yn rhoi ystyriaeth i’r storm nesaf sy’n croni dros yr Iwerydd ac a fydd yn llofruddio cywion yn y nyth, nac am y gangen ffynidwydd Douglas bydredig fydd yn torri’r tro nesaf saif dryw bach arni hi heb sôn am walch 2kg. Beth am y bele mwyaf anlwcus a oedd ar fin sglaffio tri wy gwlach tra doedd neb yn gwarchod y nyth, ond iddo gael ei lusgo o’r nyth ychydig eiliadau ynghynt gan fwncath rheibus?

Mae popeth byw heddiw yn gynnyrch adwaith cadwynol nemor amhosibl o ddigwyddiadau ystadegol annhebygol. Os oeddech chi’n meddwl bod eich siawns o ennill y loteri yn brin (tua 13 miliwn i un yng Ngwledydd Prydain), ystyriwch eich bod chi a’ch holl hynafiaid, sy’n mynd yn ôl bron i bedair biliwn o flynyddoedd, yn rhai o’r casgliadau moleciwl mwyaf lwcus yn y bydysawd cyfan. Rydych chi wedi curo’r ods Loteri sawl gwaith.

Mae’r ffaith eich bod yn darllen hwn rwan hefyd yn dangos bod biliynau o’ch hynafiaid ddim yma i’w ddarllen hefyd. Cawsant eu taflu o’r neilltu yn y gêm loteri esblygol o siawns a lwc, a’u hamddifadu o gyrraedd y presennol. Chi ydy, fel yr ysgrifennodd Richard Dawkins unwaith, cymeriadau yn ‘Y Sioe Fwyaf ar y Ddaear’.

Felly, beth sydd gan lwc a wnelo unrhyw un o’r gweilch Cymreig?

Pa ods y byddai Gwalch a anwyd yn yr Alban yn 1998, yn cael ei drawsleoli i Rutland Water yn bum wythnos oed, yn goroesi’r chwe blynedd nesaf ac yn dychwelyd i Ogledd Cymru o bob man, ac yn adeiladu nyth, dros 100 milltir i ffwrdd o’r nyth gwalch agosaf? Pa ods y byddai’n dod o hyd i iâr mewn gwlad sydd â chyn lleied o weilch, a lle roedd y cofnod diwethaf o walch yn magu yn mynd nôl dros 400 mlynedd?


Oren 11(98) – Gennynnau da neu lwc dda?    © Leicestershire & Rutland Wildlife Trust

Oren 11(98) – Gennynnau da neu lwc dda? © Leicestershire & Rutland Wildlife Trust

Pa ods y byddai eu nyth naturiol cyntaf a gwympodd mewn storm ym mis Gorffennaf 2004, yn cael ei ailadeiladu yn ddiweddarach y flwyddyn honno gan rhywogaeth arall – yr union un a wnaeth erlid y gwalch y pysgod yn wreiddiol i ddifodiant yn Ngwledydd Prydain – ac a fyddai’n dylunio nyth sydd mor gadarn, na fydd byth yn dymchwel ac y gall wrthsefyll tywydd gwaethaf Eryri.

Pa ods y byddai’r ceiliog yn dychwelyd y flwyddyn ganlynol? Pa ods y byddai’r iâr yn dychwelyd y flwyddyn ganlynol? Pa ods byddai’r ceiliog yn byw 10 mlynedd arall a dychwelyd i’r un nyth i fridio? Pa ods byddai’r iâr yn gwneud hynny hefyd? Pa ods y byddai’r pâr yma yn bridio’n llwyddiannus bob blwyddyn, heb unrhyw ddibyniaeth ar ddwysedd, na chyfyngiadau gorlenwi, nac ymyrraeth na chystadleuaeth am gymheiriaid?

Ydych chi’n gweld? Roedd y tebygolrwydd o’r holl bethau hyn yn digwydd yn anhygoel, ond, mi ddigwyddon nhw. Oedd, roedd ‘Oren 11’ a ‘Mrs G’ ymysg y rhai trechaf o’u math, roedden nhw hefyd ymysg y rhai mwyaf lwcus. Dyna ydy lwc.


Y Flwyddyn ddaeth Lwc i ben

Felly rydym yn cyrraedd 2016 ac mae pob math o ‘bethau rhyfedd’ yn dechrau digwydd.

Mae Dai Dot yn cael ei ddisoldli yn ei nyth yng Nghanolbarth Cymru gan geiliog arall a fe dynnir llun ohono fo ychydig wythnosau’n ddiweddarach gydag anaf bosib i’w asgell dde. Mae un o wyau Dyfi yn methu â deor. Mae’r union beth yn digwydd yn Glaslyn. Dydy hyn erioed wedi digwydd o’r blaen.

Y cip olwg diwethaf o Dai Dot, o bosib wedi’i anafu - Ebrill 2016
Y cip olwg diwethaf o Dai Dot, o bosib wedi’i anafu – Ebrill 2016

Mae un o gywion chwech wythnos oed Glaslyn yn cael anaf i’w goes, a edrychai ar yr olwg gyntaf yn ddifrifol. Wedyn, mae’r llall yn brifo ar ôl glanio’n lletchwith yn fuan ar ôl mynd dros y nyth am y tro cyntaf. Mae un o gywion Dyfi hefyd yn brifo ar ôl syrthio oddi ar glwyd am hanner nos, dim ond tri diwrnod ar ôl mynd dros y nyth. Mae’r ddau gyw Glaslyn, yn groes i’r disgwyl (dyma lwc yn chwarae’i ran eto), yn goroesi. Ond, mae Ceri, cyw Dyfi yn marw.

Nid yw’r rhain yn ‘bethau rhyfedd’ o gwbl.

Mae’ch siawns o daflu ceiniog pum gwaith a chael Pen bob tro yn 32 i 1. Mae’r tebygolrwydd i gapten criced Lloegr ennill y tafliad bum gwaith mewn cyfres o pum gêm brawf yr un fath, 32 i 1. Nid oes dirgelwch yma, na cynllwyn na digwyddiadau goruwchnaturiol ar droed, mae o – neu hi – wedi bod yn lwcus. Bydd yn digwydd eto ac eto ac eto, ar gyfartaledd, ar ôl pob cyfres o 32 gêm brawf.

Yn ogystal â bod yn anlwcus, roedd yr hyn ddigwyddodd i Dai Dot, W7, W8 a Ceri yn ganlyniad rhywbeth arall hefyd – sef dibyniaeth ar ddwysedd.

W7 ac W8, cywion Glaslyn ar ôl mynd dros y nyth yn 2016 – amser peryglus i weilch ifainc
W7 ac W8, cywion Glaslyn ar ôl mynd dros y nyth yn 2016 – amser peryglus i weilch ifainc

Diolch byth mae’r boblogaeth gweilch yn cynyddu yng Nghymru.. Mae yma bedwar pâr bridio ac mae llawer mwy o adar yn treulio’r haf yma. Mae’n bell o fod yn boblogaeth naturiol, ond y mae, gobeithio, ar y trywydd hwnnw.

Mae adar eraill yn niwsans i barau bridio – gofynnwch i Dai Dot. Maent yn achosi gorlenwi a mwy o gystadleuaeth am gymheiriaid a nythod. Mae Glas 24 wedi bod yn ddraenen barhaus yn ystlys Glesni yn Dyfi ac rwan mae gennym iâr arall o Rutland – Glas 5F, yn gwneud yr un peth yn Glaslyn. Er ei bod yn amhosib profi hynny ar ôl un blwyddyn, mae bron yn sicr mai’r adar hyn oedd y rheswm bob yna ddau wy heb ddeor yn y ddau nyth.


Modrwyo Adar

Rydym yn cymryd yn ganiataol ein bod yn gallu adnabod rhai gweilch: Glesni, EJ a ceiliog gwreiddiol Glaslyn, Oren 11. Mae pump o epil Glaslyn (Melyn 37, Gwyn YA, Du 80, Gwyn YC a Gwyn 91) wedi dychwelyd i Wledydd Prydain ac wedi bridio’n llwyddiannus eu hunain, a magu dros 50 o gywion hyd yn hyn. Mae un arall o adar Glaslyn hefyd wedi’i weld sawl gwaith ar ôl iddo dychwelyd – Glas 80, ceiliog 2012. Mae Clarach (Glas 2R a anwyd 2013) o Dyfi hefyd wedi ei gweld yn ôl fel oedolyn ynghyd â Glas 9R, cyw 2014 o ail nyth Eryri. Gwyddom hyn oll am un rheswm yn unig – modrwywyd yr holl adar hyn pan yn gywion.

Mae Gwyn YC Glaslyn (g.2008) yn bridio ar nyth Ymddiriedolaeth Natur yn Cumbria
Mae Gwyn YC Glaslyn (g.2008) yn bridio ar nyth Ymddiriedolaeth Natur yn Cumbria

Rydw i wedi dweud hyn lawer gwaith o’r blaen, ond mi ddywedai unwaith eto. Modrwyo adar yw’r offeryn ymchwil mwyaf effeithiol, cain ac annistrywiol a greuwyd erioed er mwyn dysgu mwy am ecoleg a symudiadau adar. Mae wedi gwrthsefyll prawf amser – dros ganrif erbyn hyn, ac yn dal i fod y dull gorau sydd gennym i gael gwybodaeth am boblogaethau adar; gwybodaeth a ddefnyddiwn i helpu yn eu cadwraeth, ac nid oes dwywaith, mae rhai rhywogaethau wirioneddol angen eu gwarchod ar ôl yr erledigaeth a’r colli cynefinoedd maent wedi’u ddioddef.

Mae modrwywyr adar yn arbenigwyr yn eu maes. Maent yn ymgymryd â hyfforddiant maith, weithiau dros llawer o flynyddoedd, gan araf ennill gwahanol gymwysterau a thrwyddedau ar gyfer gwahanol rywogaethau. Maent yn ddringwyr coed, crogfachwyr clogwyni ac ogofau ac yn weithwyr proffesiynol gyda rhaff ac ysgol gan weithio mewn amgylcheddau anodd ac anhygyrch a fyddai’n codi ofn ar y rhanfwyaf ohonom ni. Maent ymhlith y gweithwyr proffesiynol uchaf eu parch yn y byd adar, wedi’u rheoleiddio gan rai o’r cyfreithiau trwyddedu mwyaf cadarn a llym, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud y gwaith yn ddi-dâl, ac yn wirfoddol.

Celyn, Glas W2 yn barod i fynd yn nôl i nyth Dyfi wedi’i fodrwyo
Celyn, Glas W2 yn barod i fynd yn nôl i nyth Dyfi wedi’i fodrwyo

Eto i gyd, yn 2016, fe wynebodd rhai o’r modrwywyr adar hyn yng Nghymru sefyllfa nad oeddent erioed wedi dod ar ei thraws o’r blaen – llifeiriant o sylwadau beirniadol, chwerw ac ymosodol, yn bennaf ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y cam-drin hyn mor ddifrifol, nes bod un o’n modrwywyr wedi penderfynu rhoi’r gorau i fodrwyo gweilch, ar ôl dros 10 mlynedd o wneud hynny.

Roedd natur y sylwadau ar un thema: Y modrwywyr oedd rhywsut yn gyfrifol am yr holl bethau ‘dirgel’ hyn oedd wedi mynd o’u lle. Nid yw hyn yn wir. Petai camgymeriad wedi’i wneud, byddem wedi rhoi gwybod i chi.


Awgrymodd rhai o’r sylwebwyr bod coesa’r gweilch wedi’u torri yn ystod y broses modrwyo, fod yr adar wedi’u cam-drin mewn rhyw ffordd, eu bod wedi cael eu trin yn frwnt, a llawer o resymau ffug eraill gan gynnwys, ydych chi’n barod, bod yr alcohol ar y swabiau buccal a gymerwyd ar gyfer dadansoddiad DNA, wedi meddwi’r adar, gan achosi iddynt ddisgyn oddi ar clwydi yn llu. Nid oes yna alcohol, nac unrhyw thoddiant arall, ar y ffon cotwm. Ffyn cotwm glân ydynt, a dim arall.

Cyfryngau Cymdeithasol

Pan ddechreuodd gweilch y pysgod nythu yng Nghymru a Lloegr eto ar ddechrau’r ganrif hon, nid oedd y fath beth â chyfryngau cymdeithasol yn bod. Dim ffonau smart, dim Facebook, Twitter, Youtube a’r holl bethau eraill. Mae’r holl llwyfannau hyn (chwarae ar eiriau’n fwriadol!), fodd bynnag, wedi bod o gymorth dibendraw i helpu’r gwalch fel rhywogaeth adennill tir a ffynnu yn ystod y degawd diwethaf.

Gallwn adrodd eu straeon, eu hecolegau, a dangos lluniau a fideos. Yn 2012, am y tro cyntaf yng Nghymru, roeddem yn gallu ffrydio lluniau byw o nyth gwalch y pysgod yn Dyfi. Un tro, mi welais i deithiwr ar y trên danddaearol yn Llundain yn gwylio gweilch Dyfi yn fyw ar ei ffôn ar ei ffordd i’r gwaith – mi ges i gip cyfrwys. Afreal. Caiff tri o’r pedwar nyth yng Nghymru nemor ddim cyllid, mae’n rhaid inni godi’r holl arian ein hunain, yn bennaf trwy gefnogaeth caredig ein dilynwyr fel chi. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan enfawr i’n galluogi i wneud hynny.

Thousands of people engage with ospreys on social media
Thousands of people engage with ospreys on social media

Fodd bynnag, er gwaetha’r holl ddaioni, gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn rhwystr hefyd. Amlygwyd hynny yn 2016 gyda’r holl sylwadau difrïol hynny. Mae’n hawdd iawn i guddio tu ôl i sgrîn cyfrifiadur, ffôn neu dabled ac ysgrifennu beth bynnag yr ydych yn hoffi; rwy’n siwr na fyddai’r rhan fwyaf o’r pethau hyn wedi cael eu dweud mewn sgwrs wyneb-yn-wyneb.


Disney World

Mae pob un ohonom sy’n gweithio’n llawn amser gyda bywyd gwyllt yn gwneud penderfyniadau dyddiol sy’n seiledig ar ein cymwysterau, profiadau a gwybodaeth. Nid oes gennym “Bolisïau Ymyrraeth”. Gwneir penderfyniadau yn ystod adegau o helbul yn seiliedig ar un maen prawf yn unig, beth yw’r ffordd orau o weithredu, ar y pryd, er mwyn lles y gwalch ac aelodau o’i deulu.

Ni allwn, ar yr arwydd cyntaf o gloffni neu beswch, gasglu pobl ynghyd a dringo coeden 100 droedfedd neu gosod ysgol yn erbyn llwyfan 40 troedfedd. Caiff y camau hyn effaith ar bob math o bethau eraill, megis yr adar eraill, yr oblygiadau gyfreithiol, a diogelwch y bobl dan sylw.

Mae llawer ohonoch efallai’n cofio’r tro y llwyddom i gymryd Ceulan o’i nyth yn 2012 ar ôl i’w frawd a chwaer farw o ddiffyg maeth ac oerfel wrth ei ochr, neu’r chwilio am Cerist yn 2013. Roedd yn penderfyniadau’n lwyddiant, ond bu rhaid pwyso a mesur yn fanwl: dadansoddiad cost a budd egnïol. Nid oedd unrhyw sicrwydd o lwyddiant a gallai pethau’n hawdd fod wedi troi allan yn wahanol iawn.

Chwilio am Cerist wrth yr afon Dyfi yn 2013
Chwilio am Cerist wrth yr afon Dyfi yn 2013

Ni allem ymyrryd â’r cywion a anafwyd yn nythod Glaslyn a Dyfi yn 2016, gan y byddai hynny wedi cael effaith niweidiol ar yr adar eraill yn y nyth. Nid oedd unrhyw ffordd arall. Nid Disney World ydy fama – ni allwn hudo’r adar hyn a’u trosglwyddo i rhyw ‘ganolfan rehab’ yn rhywle a gobeithio y bydd popeth yn iawn.


Gofynnwn ichi…

Mae’r mwyafrif helaeth ohonoch chi yn deall yn iawn natur ein gwaith a’r penderfyniadau sydd rhaid eu cymryd weithiau, pan fydd pethau’n mynd o chwith. Yn wir, rwyf wedi gweld cymaint o’n cefnogwyr yn amddiffyn ein gweithredoedd yn erbyn y lleiafrif hynny sy’n teimlo bod ganddyn nhw’r hawl i hyrddio mewn a’n rhwygo’n ddarnau.

Rydym yn croesawu cwestiynau, beirniadaeth adeiladol, ac ymholiadau ynglyn â pham ein bod yn dod i benderfyniadau. Mae craffu yn beth da – dychmygwch pe na fyddai hynny’n digwydd yn y sector amgylcheddol? Byddai ein bywyd gwyllt yn llawer tlotach heb graffu.

Fel y gwyddoch, rydym yn mynd allan o’n ffordd i fod yn gwbl onest a thryloyw, gan esbonio’r rhesymeg a’r meddwl y tu ôl i rhai o’r penderfyniadau anodd a wnawn mewn helbul. Nid oes rhaid inni, a phrin ydy’r sefydliadau sydd yn gwneud hynny. Gofynnwch, yn gwrtais, unrhyw gwestiwn a fynnoch, ond ystyriwch fod yna bobl go iawn ar y pen arall. Os ydych chi’n teimlo mor angerddol am y gweilch dan sylw – dychmygwch pa mor angerddol mae’r bobl y pen arall yn teimlo?

Nid oes lle i gam-drin mewn cymdeithas wâr. Llynedd, cawsom fygythiadau, rhai ohonynt yn bersonol iawn, a’r cam-driniaeth ffieiddia’ rwyf wedi’i weld ers imi ddechrau gweithio gyda gweilch. Mae’n dorcalonnus bod modrwywr gyda degawdau o brofiad, ac un o’r bobl fwyaf gofalgar a thosturiol rwyn adnabod, yn penderfynu rhoi’r ffidil yn y to am iddi hi gael ei chynhyrfu cymaint gan leiafrif bychan, sydd gwaetha’r modd, â’r grym i weiddi’r mwyaf croch.

Y tro nesaf bydd gennym gyw wedi’i anafu neu gwalch y pysgod mewn trallod yn rhywle, y peth diwethaf rydym ei angen ydy poeni beth mae bobl, weithiau miloedd o filltiroedd i ffwrdd, yn feddwl am ein penderfyniadau. Ni ddylai hynny fod yn rhan o’r broses wrth inni wneud penderfyniadau. Petaem yn gwneud hynny, y gweilch, yn y pen draw, fyddai’n dlotach.

Diolch i chi am eich dealltwriaeth ac am ddarllen cyn belled. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’r gweilch, ond ni allwn warantu canlyniad ‘hapus am byth’ chwaith. Adar gwyllt ydy rhain, ni ellir rhagweld beth fydd yn digwydd ym myd natur, ac yn sicr nid Disney World
mono. Dyna ni.

Emyr Evans