Hydref Gwyllt! – Adroddiad

Pwll McAlpine

Er bod tymor prysur gwarchod y gweilch wedi mynd heibio, peidiwch â meddwl ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau! Efallai bod rhai ohonoch chi eisoes wedi sylwi mai Bywyd Gwyllt Glaslyn ydy enw’r prosiect, a’n gobaith ni yw, nid yn unig canolbwyntio ar y gweilch ond hefyd ennyn eich diddordeb yn y toreth o fywyd gwyllt sydd ar ein trothwy! Felly, wrth inni baratoi ar gyfer ail-agor y Ganolfan Ymwelwyr yn 2017, rydyn ni hefyd yn brysur yn dysgu a rhannu’n profiadau o’r holl fywyd gwyllt arall ar Draeth Glaslyn.

Felly… bywyd gwyllt amdani! Mae ein gweithgareddau diweddar ni – Hydref Gwyllt – ar Ddydd Sadwrn, 8 Hydref yn tystio bod yna ddigonedd i’w weld adeg yma o’r flwyddyn. Ar y diwrnod, ymunodd nifer o arbenigwyr gorau’r ardal â ni, i’n helpu i agor ein llygaid ar y byd o’n cwmpas.

Ar y dro bore, mi aethom ni i Gob Crwn, Porthmadog yng nghwmni’r adarwyr uchel eu parch, Geoff Gibbs, Elfyn Lewis and Rhys Jones. Wedyn ar ôl cinio yn y Ganolfan Ymwelwyr ym Mhont Croesor, cawsom helfa ffwng trwy goedlan trawiadol Hafod Garegog yng nghwmni Cynan Jones o’r ‘Ardd Fadarch’.


Y Dro Adar – gan Gruff Owen

Allech chi ddim fod wedi gofyn am well tywydd ar gyfer ymweld â’r Cob Crwn bore Sadwrn diwethaf. Tywydd perffaith inni wylio’r adar gwyllt wrth ein pwysau – sych, ychydig bach o gymylau a nemor ddim gwynt. Ac mi oedden ni’n mynd wrth ein pwysau hefyd – bron i awr yn ddiweddarach roedden ni dal ar gyrion y maes parcio cyhoeddus ym Mhorthmadog a heb gychwyn cam o gwmpas Cob Crwn ei hun! Doedden ni ddim yn tindroi yn ddi-angen chwaith, ond mae’r maes parcio wedi’i leoli drws nesaf i un o safleoedd gwylio adar gorau yr ardal – Llyn Bach – ac mi gyrhaeddon ni ar lanw isel; yr amser perffaith i wylio rhydyddion ac adar y môr sydd wedi cyrraedd yn lled ddiweddar.

Roedd ein tri arweinydd yn brysur iawn, gyda grŵp o bron i 30 o ymwelwyr yn bledu cwestiynau atyn nhw yn ribidres: Beth ydy hwnna? Pam mai dyna’i enw? Be’ ydy’r enw yn Gymraeg? Dydy ei goesau ddim yn edrych yn wyrdd iawn imi! Roedd yn destament i’w gwybodaeth a’u dealltwriaeth bod pob cwestiwn wedi’i ateb!

Yn bendant, roedd yna ddigon o adar i gadw’r cwestiynau i ddod. Gyda’r llanw allan, roedd gwelyau mwd Llyn Bach yn fan bwydo delfrydol i’r adar dan sylw. Gwelsom ddigon o Bibyddion Coeswerdd a Phibyddion Coesgoch a hefyd roedden yn hynod o lwcus i weld Pibydd Coesgoch Mannog – dim ond tua 500 o rhain gaiff eu cofnodi yn y DU yn flynyddol! Ynghyd â’r pibyddion, mi welsom Rhostog Gynffonddu – mwya’r tebyg yn aros am seibiant wrth fudo o’u mannau bridio yng Ngwlad yr Iâ i aber y Ddyfrdwy neu’r Wash. Roedd yna nifer o Rhostog Gynffonfraith hefyd gan roi cyfle gwych inni gymharu’r ddau rhywogaeth. Os oes gennych chi diddordeb, mae’r fidios a ganlyn gan y BTO yn arweiniad da i adnabod y rhydyddion hyn…

 

Ar ôl treulio dipyn bach gormod o amser ar lan Llyn Bach, mi brysuron ni i gerdded ar hyd llwybr Cob Crwn. Roedd y dro hon yn cynnig golygfeydd arbennig o Llyn Bach ei hun a chorsydd Glaslyn – lle mae Bod y Gwerni wedi’i weld yn ddiweddar; er roedd cip olwg ar un o’r Glas y Dorlan preswyl yn ddigon o wledd ynddo’i hun i bawb! A dweud y gwir, wrth i’r gair ledaenu am yr aderyn bach godidog hwn cafwyd cynnwrf a rhuthr ymysg y grŵp, roeddwn i’n grediniol bod rhywun wedi llithro a thorri coes!

Ar ôl gwirio fod pawb yn iawn, ymlaen â ni ar hyd y Cob i Bwll McAlpine gyda’r golygfeydd anhygoel o aber y Glaslyn, a’r Moelwynion yn y cefndir. Roedd y nifer o rhywogaethau a welsom yn dal i godi…a chodi. Mi welsom Hwyaden yr Eithin, Chwiwell, Gorhwyaden, Crëyr bach, Crëyr Glas, Gwyach Fach, Pioden y Môr, Cornchwiglen, Gylfinir, Rhostog, Pibydd Coesgoch Mannog, Pibydd Coesgoch, Pibydd Coeswerdd, Gïach, Glas y Dorlan, Clochdar y Cerrig a Thelor y Cyrs. Bore ardderchog o adarydda!

Mi gawsom ni ddiwrnod hwyliog dros ben yn gwylio adar yng nghwmni criw o bobl hynaws. Roedd yn bosib tynnu lluniau agos iawn o rhai adar mudo hardd yn Cob Crwn, gydag un neu ddau o rhai prin yn y gymysgfa hefyd. Roedd y dro wedi bod yn gyfle arbennig i bobl o’r un meddylfryd gyfarfod a rhannu profiadau. Felly, roedd yn bleser arbennig ar ddiwedd y bore i barhau’r sgwrs dros ginio yng Nghanolfan Ymwelwyr BGGW ym Mhont Croesor. A beth am y Bod y Gwerni diarhebol hwnnw fethon ni â’i weld uwchben gorsydd y Glaslyn? Wel mi oedd yna bâr yn disgwyl amdanon ni ym Mhont Croesor trwy’r amser, ac yn hela ar hyd y caeau o flaen ein trwynau! Atgof perffaith i gloi’r diwrnod!


Helfa Ffwng – gan Gwenan Williams

The "Bad" basket!

Mae’r Hydref yn amser perffaith i ymlwybro trwy’r dail crin i chwilio am fadarch a chaws llyffant!

Ar ddydd Sadwrn, 8 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Ffwng y DU, daeth dros 30 o selogion ffwng, gan gynnwys dau deulu ifanc, at ei gilydd yng nghoedlan Hafod Garegog ar gyfer helfa ffwng Bywyd Gwyllt Glaslyn.

Roedd yn brynhawn braf, sych ac eithaf cynnes. Er nad oedd hi wedi bwrw glaw yn ddiweddar, roedden ni’n ffyddiog y deuem, o dan arweiniad yr arbenigwr hynaws Cynan Jones (Yr Ardd Fadarch) a llygad barcud rhai o’n helwyr brwdfrydig, o hyd i nifer dda o ffwng yn y goedlan hynafol godidog hon. Mae gan y goedlan nenlen o dderw digoes gyda bedw arian islaw, ynghyd â choed criafol a ffawydd, sy’n cynhyrchu llwydni dail oddi tano yn y hydref – lle da i ffwng dyfu. Gobeithio!


Chawsom ni mo’n siomi! Erbyn diwedd yr helfa, roedden ni wedi casglu 20 ffwng (a hynny heb gynnwys chwe Russula o liwiau amrywiol). Helfa wych!

Gwirfoddolodd dwy o’r grŵp i gario basgedi Cynan. Gwyneth oedd yn gyfrifol am gario’r ffwng bwytadwy a gasglwyd; Cap tyllog (Boletus edulus), Siantrel (Cantharelius cibarius), Ffwng y draenog (Hydnum repandum) a hefyd Iâr y coed (Grifola frondosa).

Maira oedd yng ngofal yr ail fasged a oedd yn dal y ffwng anfwytadwy, megis y Jeli Babi (Leotia lubrica) a Boletus y fedwen (Leccinum scabrum). Hefyd, mi gasglon ni Torthau’r Tylwyth Teg (Hypholoma fasciculare) a’r Twyllwr Piws (Laccaria amethystea) ynghyd â nifer o ffwng diddorol eraill. Yn y fasged hon oedd y ffwng gwenwynig; Y Gwridwr (Amanita rubescens), Cantel mewndro brown (Paxillus involutus) a’r ffwng sydd â’r enw dychrynllyd hwnnw, Cap marwol (Amanita phalloides).

Roedd Cynan yn pwysleisio pa mor beryglus oedd rhai o’r ffwng hyn – a pha mor ofalus oedd rhaid inni fod, gan fod yna lawer ohonynt a all dwyllo’r heliwr! Dangosodd inni fadarchen a oedd o ran ei edrychiad yn tynnu dŵr i’r dannedd, ond a oedd â digon o wenwyn mewn tafell denau i ladd 30 o bobl. Mae’n talu i wrando ar yr arbenigwyr! Y Cap marwol yw’r ffwng mwyaf marwol – mae cyn lleied â 20g yn ddôs angheuol.

Ychydig o dan ddwy awr oedd yr helfa – ond doedd y diwrnod ddim ar ben eto! Cawsom wahoddiad gan Cynan i ymweld â’i Ardd Fadarch, lle rhoddodd sgwrs ddiddorol a difyr am ei fenter madarch. Dangosodd inni sut y mae’n tyfu madarch shiitake ac wstrys y coed (gan gynnwys rhai pinc llachar!) – mewn cynhwysion llongau anferth ar y safle. Hefyd, cawsom gyfle i flasu’r ystod o sesnin mae Cynan a’i wraig June wedi’u datblygu. Blasus dros ben! Wrth i’r tywydd oeri a’r prynhawn dynnu at ei derfyn, cawsom ffest ffwng gan Cynan – ein helfa ni, madarch cap tyllog a’r siantrel, wedi’u ffrio’n ysgafn mewn menyn. Bendigedig! Diweddglo perffaith i’r diwrnod.

_dsc6090_01