2014 – 2015

Saesneg

2014

Rhoddodd yr RSPB y gorau i redeg Prosiect Gweilch Glaslyn yng ngwanwyn 2014 ac erbyn hynny, roedd digon o arian wedi’i godi i sefydlu Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife a dechrau gweithredu.

Cyn diwedd Chwefror, roedd y grŵp wedi llwyddo i ddiweddaru ei gamera manylder uwch yn ogystal â chael tri chamera newydd ac, o’r diwedd, roedd modd gweld Gweilch Glaslyn yn eu holl ogoniant.

Gosodwyd pared yn ein cuddfan wrth Bont Croesor er mwyn cael lle i groesawu’r cyhoedd, a defnyddiwyd technoleg trawsyrru di-wifr i ddanfon signalau fideo o gamerâu’r nyth i sgrin y guddfan. Yn y cyfnod hwn, câi’r prosiect ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac roedd y safle ar agor bob penwythnos drwy gydol yr haf.

Cyrhaeddodd y ceiliog a’r iâr yn ôl eu harfer, gyda’r iâr yn cyrraedd ddeuddydd ar ôl i’r ceiliog wneud hynny, sef ar yr 22ain o Fawrth. Dodwywyd tri ŵy ganol mis Ebrill, a deorodd y tri chyw ar y 13eg, y 14eg a’r 16eg o Fai. Rhoddwyd modrwyau Glas 7C a Glas 8C ar y ddwy fenyw, a modrwy Glas 9C ar y gwryw.

Aeth y tri chyw dros y nyth ar ddechrau Mehefin ac, erbyn diwedd Awst, roedd pob un wedi cychwyn mudo tua’r De. “2014 marked the tenth consecutive year that the same 2 ospreys had successfully produced young to fledging at the Glaslyn nest, 26 in all.” (Emyr Evans, Ospreys in Wales, t 190.)
2015

Bu 2015 yn flwyddyn llawn digwydd i gymuned Glaslyn, a gwelwyd newidiadau mawr nid yn unig yn y nythle ond hefyd yn ein canolfan wrth Bont Croesor.

Gwireddwyd un o freuddwydion hir y gymuned ar yr 31ain o Orffennaf pan ddaeth Iolo Williams i agor yn swyddogol ein canolfan newydd i ymwelwyr. Mae’r ganolfan bwrpasol yn ein galluogi i gydweithio’n fwy effeithiol gyda’n hymwelwyr a’n cymunedau, ein hysgolion a’n busnesau lleol ac yn ein galluogi hefyd i ddal ati i ledaenu ein neges sylfaenol ynghylch cynaliadwyedd a stiwardiaeth dda. Cyn diwedd y tymor, cyrhaeddwyd carreg filltir arall drwy gyflawni’r nod hirddisgwyliedig o ffrydio lluniau byw o’r nyth i’n gwefan. Bellach, gall pobl o bob cwr o’r byd weld yn union beth sy’n digwydd yn y nyth 24 awr y dydd.

Iolo Williams opens the new visitor centre at Pont Croesor

Yng ngwanwyn 2015, dychwelodd yr iâr ar y 19eg o Fawrth. Roedd yn anarferol iddi gyrraedd fel hyn cyn ei chymar, ond tawelwyd peth ar ein pryderon ar ôl i ni ddeall bod drycinoedd yn arafu taith y rhan fwyaf o’r adar oedd yn mudo o’r De.

Treuliodd yr iâr ei dyddiau cyntaf ar ac o gwmpas y nyth, yn ymlid brain, yn dal pysgod ac yn edrych yn ddisgwylgar tua’r gorwel am ei chymar teyrngar.
Ond wrth i’r naill wythnos ar y llall fynd heibio heb yr un golwg o’r ceiliog, dechreuodd cymuned Glaslyn dderbyn yn gyndyn na fyddai Gwalch Eithriadol 11(98), a oedd wedi hyrwyddo ei rywogaeth mor ardderchog drwy fagu 26 o gywion, yn dychwelyd y tro hwn.

Dros yr wythnosau dilynol, cafodd yr iâr gyfnod cythryblus iawn wrth geisio dethol cymar newydd iddi ei hun. Fe gafodd gryn sylw ar y dechrau gan CU2 (a lysenwyd yn Jimmy ar ôl iddo gyrraedd ar y 15fed o Ebrill) a Glas 80, un o gywion Glaslyn 2012 (a gyrhaeddodd ar yr 16eg o Ebrill).

Rhoddodd y ddau geiliog yma obaith newydd i drigolion Glaslyn ar adeg pan oedden nhw’n dal i gredu bod gobaith o hyd i 11(98) ddychwelyd. Achosodd y ddau geiliog danchwa o chwilfrydedd ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i ddilynwyr gymharu’r digwyddiadau yn Nhraeth Mawr â digwyddiadau mewn opera sebon ar y teledu!

Glas 80 oedd yr unig un o’r ddau geiliog a welwyd yn sathru’r iâr , ac ar yr 20fed o Ebrill, dodwywyd yr ŵy cyntaf. Fodd bynnag, doedd Glas 80 ddim yn ymweld â’r nyth erbyn hyn, ac yn ôl pob golwg, roedd CU2 wedi cymryd ei le. Gwelwyd CU2 yn sathru’r iâr ar y 23ain o Ebrill ond, yn sydyn, roedd yntau hefyd wedi diflannu.

I ychwanegu at y cyffro, ymddangosodd trydydd ceiliog (un heb fodrwy) ar y safle nythu ar y 30ain o Ebrill. Er fod yna dri o wyau wedi’u dodwy erbyn hynny, tybid bod y rhain yn anffrwythlon gan na fu’r un ceiliog yn cludo pysgod yn gyson i’r iâr. Doedd yna ddim ysbaid digonol chwaith rhwng y sathru a’r dodwy.

Dodwywyd dau ŵy clonc arall yr wythnos ddilynol, ond ar yr un pryd, sylwyd bod y ceiliog mwyaf diweddar yn sefydlu perthynas agos iawn gyda’r iâr.

Gwaetha’r modd, ar y 12fed o Fai clywyd bod CU2 wedi’i ddarganfod yn farw ar gyrion Pentrefoelas, tua 25 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Traeth Mawr. Roedd newydd ddal pysgodyn ac wrthi’n ei gludo at glwydfan ar ben polyn trydan pan gyffyrddodd â’r trawsnewidydd, a chafodd ei drydaneiddio. Byddai’r llecyn lle y daethpwyd o hyd iddo’n gynefin perffaith i weilch y pysgod, a does dim dwywaith mai chwilio am nythle a phartner posib yr oedd. Ond nid felly yr oedd hi i fod…

O’r diwedd, yn oriau mân y 18fed o Fai, daeth y newydd yr oedd pawb yn dyheu am ei glywed – roedd yr iâr wedi dodwy ei chweched ŵy. Cymerodd y ceiliog a hithau eu tro i ori arno, ac roedd hi’n ymddangos bod yr ŵy hwn yn ffrwythlon. Bump diwrnod yn ddiweddarach, ac yn gwbl groes i’r disgwyl, dodwywyd seithfed ŵy ar y 23ain o Fai.

Aran turning the two eggs

Yn nes ymlaen yr un mis, ar y 30ain o Fai, penderfynwyd rhoi enwau ar weilch Glaslyn. Mae rhoi enwau ar adar gwyllt yn bwnc dadleuol. Mae rhai pobl yn frwd o blaid yr arferiad am fod hyn yn ei gwneud yn haws uniaethu â’r adar, ac mae’n osgoi dryswch. Mae eraill yn chwyrn yn erbyn y peth am ei fod yn ‘dyneiddio’ creaduriaid gwyllt. Rhaid cydnabod bod enwi’r adar yn rhoi eglurder wrth drafod hanes gweilch Glaslyn ac wrth sôn am weilch eraill. Pan oedd 11(98) yn geiliog Glaslyn, roedd pethau’n llawer haws – yn enwedig wrth gyfeirio ato ar y cyfryngau cymdeithasol – am fod ganddo ef fodrwy a rhif arni.

Yn ogystal â hyn, roedd dilynwyr gweilch Glaslyn yn hoff o alw’r iâr yn ‘Mrs G’, ac felly penderfynwyd rhoi’r enw hwn arni’n swyddogol. Yn yr un modd, rhoddwyd yr enw ‘Aran’ (sef enw un o fynyddoedd Eryri) ar geiliog newydd, di-fodrwy Glaslyn.

O’r 23ain o Fai ymlaen, pan ddodwywyd y seithfed ŵy, roedd popeth yn mynd rhagddo’n ddidrafferth yn nythle Glaslyn, ac Aran yn cyflawni ei gyfrifoldebau newydd yn rhagorol. Fodd bynnag, ar y 4ydd o Fehefin, cafwyd argyfwng arall pan giciodd Aran y seithfed ŵy allan o bowlen y nyth yn gwbl ddamweiniol. Ni sylwodd Mrs G ar hyn ac ni fu’r un o’r ddau’n gori ar yr ŵy am tua 11 awr, gan beri pryder mawr i’r tîm arolygu ac i’n dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ffodus, gwelodd Aran yr ŵy a symudodd ef yn ofalus yn ôl i’w le priodol. Roedd hi’n weddol gynnes yn ystod y cyfnod hwn, diolch byth, ond pryderai amryw na fyddai’r ŵy bellach yn ffrwythlon.

Ar y 23ain o Fehefin, sylwyd bod crac ym mhlisgyn y chweched ŵy, a bu pawb oedd yn ein canolfan ymwelwyr ar y pryd yn gwylio, mewn rhyfeddod pur, y cyw bychan yn deor. Doedd yna’r un llygad yn sych wrth i ni wylio’r iâr yn rhoi darnau pitw bach o bysgodyn i’w chyw cyn iddo hyd yn oed ddod allan o’i blisgyn yn iawn.

Dridiau wedyn, gwelwyd gwyrth fwyaf y tymor wrth i’r seithfed ŵy ddeor.

The 2015 Glaslyn chicks

Modrwywyd cywion rhyfeddol 2015 ar y 1af o Awst. Benyw’n pwyso 1650g a chanddi adenydd 320mm o hyd oedd y cyw hynaf (sef Glas 4R) a gwryw’n pwyso 1320g a chanddo adenydd 296mm o hyd oedd y cyw ieuaf (sef W0).

Mae popeth ar i fyny yn nythle gweilch Glaslyn wrth i ni lunio’r adroddiad hwn. Ail wythnos Medi yw hi ac mae’r cywion yn holliach ac wedi tyfu’n llawn erbyn hyn. Mae yna gwlwm cadarn rhwng Mrs G ac Aran, a chyflawnodd y ddau ohonynt eu dyletswyddau’n ardderchog. Aeth y ddau gyw dros y nyth yn gwbl ddidrafferth ganol mis Awst, a chyn bo hir, byddant yn cychwyn ar eu siwrnai tua’r De.

Bu 2015 yn flwyddyn o gryn gyffro a straen i gymuned Glaslyn ond bydd y stori’n siŵr o gael ei hadrodd droeon yn y dyfodol. Byddwn yn colli ein cywion gwyrthiol a dymunwn siwrnai ddiogel iddynt. Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at ddychweliad diogel Mrs G ac Aran yn y gwanwyn ac at barhad llinach Glaslyn, wrth gwrs.