2012 – 2013

Saesneg

2012

Roedd y ceiliog yn ôl ar y 18fed o Fawrth – ddeuddydd yn unig yn hwyrach na’r flwyddyn gynt. Dychwelodd yr iâr ar yr 20fed o Fawrth am yr ail flwyddyn yn olynol. Ar y 3ydd o Ebrill, ni symudodd  o’r nyth drwy’r nos. Roedd hynny’n gwneud i rywun amau ei bod wedi dodwy ond nid tan 10:02 fore trannoeth y gallwyd cadarnhau bod yna ŵy. Oherwydd y gwyntoedd cryfion cyson, adeiladodd y pâr ochrau’r pydew wyau mor uchel fel nad oedd modd gweld y tri ŵy tan yr 11eg o Ebrill. Credir, fodd bynnag, i’r ail ŵy gael ei ddodwy ar y 6ed o Ebrill ac i’r trydydd gael ei ddodwy ar y 9fed o Ebrill.  Ganwyd y cyw cyntaf ar yr 11eg o Fai, ganwyd yr ail drannoeth a ganwyd y trydydd ar y 14eg o Fai.

Cawsant eu modrwyo ar y 18fed o Fehefin. Gwryw oedd Glas 80, benyw oedd Glas 0C a gwryw arall oedd Glas 1C. Gadawodd Glas 80 y nyth ar y 4ydd o Orffennaf ac fe’i dilynwyd gan Glas 0C ar y 5ed a chan Glas 1C ar y 7fed o Orffennaf. Erbyn dyddiau cyntaf Medi, roedd pob un wedi gadael y fro.

Ganol Gorffennaf, cyhoeddodd yr RSPB eu bod am dynnu allan o’r prosiect a throsglwyddo’r rheolaeth i’r gymuned leol. O ganlyniad, ffurfiwyd Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife gan wirfoddolwyr a chyfranogwyr eraill, er mwyn gwarchod gweilch y pysgod a dangos y gweilch a byd natur y dyffryn i bobl.

Hefyd yn 2012, magodd gweilch Dyfi gyw gwryw eto a lwyddodd i adael y nyth er bod dau gyw ifanc arall wedi marw’n gynharach yn y tymor, yn sgil glaw eithriadol o drwm a gafwyd yn yr ardal ar ddechrau Mehefin. Ac ar lwyfan nythu yn Eryri a oedd yng ngofal Cyfeillion Gweilch y Pysgod, magodd pâr o weilch difodrwy gyw gwryw a adawodd y nyth yn llwyddiannus.

2013

Roedd 2013 yn flwyddyn o newid i weilch Glaslyn. Ar ôl bod yn bennaf gyfrifol am redeg y prosiect er pan ddarganfuwyd gyntaf bod yna weilch y pysgod yn nythu yn y dyffryn, byddai’r RSPB y flwyddyn hon yn trosglwyddo’r prosiect ar derfyn y tymor nythu i’r gymuned leol ei reoli. Gweithiodd gwirfoddolwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife ochr yn ochr â’r RSPB drwy gydol y tymor er mwyn i’r trosglwyddiad fynd yn llyfn.

Ni wyddai’r gweilch druain ddim am y cynlluniau newydd ar eu cyfer! Ar y 24ain o Fawrth, dychwelodd y ceiliog a’r iâr i’w nythle ar yr un diwrnod a chyn pen dwyawr i’w gilydd, am y tro cyntaf erioed. Hwn oedd eu diwrnod dychwelyd hwyraf ers 2008 ond, er gwaethaf hynny, hwy oedd un o’r parau cynharaf o weilch i ddychwelyd i’w nythod yng Ngwledydd Prydain.

Gwelwyd yr iâr yn cludo ei physgodyn ei hun i’r nyth ar y 26ain o Fawrth. Roedd hynny’n anghyffredin oherwydd, fel rheol, y ceiliog fydd yn gwneud yr holl bysgota ar ôl iddynt ddychwelyd, a bydd yn parhau i wneud hynny nes i’r cywion fynd dros y nyth. Fodd bynnag, nid effeithiodd hyn ronyn ar y berthynas glòs rhyngddynt oherwydd ar y 6ed o Ebrill – 13 diwrnod yn unig ar ôl eu dychweliad – daeth yr ŵy cyntaf. Cafwyd dau ŵy arall yn fuan iawn wedyn, sef ar y 9fed a’r 12fed o Ebrill.

11/98 on a fishing trip

Dechreuwyd cadw gwyliadwriaeth 24-awr ar y nyth cyn gynted ag y dodwywyd yr ŵy cyntaf, a 37 niwrnod yn ddiweddarach ar y 13eg o Fai, ganwyd y cyw cyntaf. Ddeuddydd yn ddiweddarach, ganwyd yr ail gyw a disgwyliai pawb yn eiddgar am ddyfodiad y trydydd cyw. Ond am y tro cyntaf ers  2005, dim ond dau o’r wyau a wnaeth ddeor. Yn anffodus, roedd yr ŵy clwc wedi diflannu i ddyfnderoedd y nyth pan aeth y dringwr i fyny i’r nyth i nôl y ddau gyw i’w modrwyo ac, felly, ni wyddom pam na wnaeth yr ŵy ddeor. Bu’r brain a nythai gerllaw’n plagio’r gweilch yn gyson a gallai hynny fod wedi cyfrannu at y methiant.

Darparodd y ceiliog ddigonedd o bysgod i’r ddau gyw ac unwaith eto, fe’i gwelwyd yn rhoi bwyd iddynt. Yn ôl y llyfrau gosod, yr iâr yn unig sy’n bwydo’r cywion ond mae gwe-gamerâu wedi dangos nad yw hynny’n wir. Ar y 18fed o Fehefin, daethpwyd â’r cywion i lawr o’r nyth i’w modrwyo. Benywod oeddynt. Glas 5C oedd yr hynaf a Glas 6C oedd yr ieuengaf. Aeth 5C dros y nyth ar y 6ed o Orffennaf pan oedd hi’n 54 diwrnod oed, ac aeth 6C dros y nyth ddiwrnod yn ddiweddarach pan oedd hi’n 53 diwrnod oed.

Glaslyn female in July 2013

Arhosodd y cywion wrth eu nythle am rai wythnosau. Gwelwyd y gwalch olaf o Bont Croesor ar y 27ain o Awst ond nid oedd modd cadarnhau pa walch ydoedd. Gwelwyd y gweilch ifanc am y tro olaf ar yr 22ain o Awst (Glas 6C) ac ar y 24ain o Awst (Glas 5C). Bryd hynny, roedd 5C yn dychwelyd i gyffiniau’r nyth a chanddi bysgodyn bychan ond cyfan yn ei chrafangau.

Y tu hwnt i Ddyffryn Glaslyn, roedd yna ragor o newyddion cyffrous. Nythodd ail bâr Eryri unwaith eto gan fagu dau gyw benyw, a rhoddodd Tony Cross fodrwyau Glas 7R a Glas 8R arnynt. Dychwelodd Du 80 (a anwyd yn nyth Glaslyn yn 2006) i’w nythle yn Threave yn ardal Dumfries a Galloway, gan fagu cywion am y bumed flwyddyn yn olynol – dau gyw y tro hwn. Cadarnhawyd hefyd mai Glas KC (a fodrwywyd mewn nyth yn Swydd Stirling yn 2009) fu ei gymar dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ddiwedd Mawrth, gwelwyd Gwyn YA (cyw ieuengaf Glaslyn yn 2007) yn pysgota yn Llyn Blagdon yng Ngwlad yr Haf; hwn oedd y cofnod cyntaf ohono ers iddo adael ei nyth genedigol. Ychydig ddyddiau wedyn, cyhoeddwyd bod amryw o bobl yn credu mai ef oedd y ceiliog magu yn Nyth 1 yng Nghoedwig Kielder yn Northumberland yn 2012. Ac yn wir, ar ôl cyfnod o bysgota’n rheolaidd yn Llyn Blagdon (lle’r aeth ynghlwm mewn rhwydi fwy nag unwaith), ymddangosodd Gwyn YA yn y nyth yn Kielder a llwyddodd i fagu un cyw gyda chymar newydd. Rai dyddiau’n unig ar ôl dod o hyd iddo eto, cafwyd datblygiad cyffrous arall pan ganfuwyd mai Melyn 37 (cyw hynaf Glaslyn yn 2005) oedd y ceiliog magu yn Nyth 2 yng Nghoedwig Kielder. Ac mae’n debygol mai ef oedd y ceiliog a welwyd yn 2010 yn cydadeiladu nyth gyda iâr mewn coeden a safai ar ei phen ei hun ar dir a oedd wedi’i glirio. Gosodwyd llwyfan yn ystod y gaeaf i gryfhau’r nyth hwnnw yn y gobaith y byddai’r gweilch yn dychwelyd. Ac yn wir, fe fagodd pâr o weilch gywion yno yn 2011 ac yn 2012, pan osodwyd camera ar y nyth. Roedd modrwy Melyn 37 wedi colli llawer o’i lliw ac er llwyddo i ddarllen y rhif 37, ni feddyliodd neb fod yna gysylltiad rhwng y ceiliog a gweilch Glaslyn nes darganfod achau Gwyn YA. Dychwelodd Melyn 37 i Kielder ddechrau Ebrill 2013 a magu tri chyw arall.

11/98 in May 2013

Yn rhyfeddol, ar weundir yng Ngogledd Swydd Efrog yng Ngorffennaf 2013, tynnwyd llun cyw ieuengaf Melyn 37 a anwyd yn 2011, sef Glas 38, a hyd y gwyddom ef oedd y cyntaf o wyrion gweilch Glaslyn i ddychwelyd i Wledydd Prydain. Yn Nhachwedd 2013, cafwyd rhagor o newyddion; y tro hwn gan Frederic Bacuez o Senegal. Roedd ef wedi gweld  Glas 1H, un o gywion Melyn 37 a anwyd yn 2012, yn ardal  Todde yng ngogledd Senegal.

Does dim dwywaith bod gweilch Glaslyn, ar ôl treulio sawl tymor nythu gyda’i gilydd, wedi sicrhau lle anrhydeddus iddynt eu hunain yn llyfrau hanes gweilch y pysgod.