2009 – 2011

Saesneg

2009

Ar ddechrau 2009, penododd yr RSPB Swyddog Prosiect newydd, sef Geraint Williams. Dychwelodd y ceiliog yn gynt nag arfer, sef ar yr 21ain o Fawrth, ac roedd yr iâr hithau’n ôl cyn pen diwrnod. Dodwywyd yr wyau ar y 6ed, y 9fed a’r 12fed o Ebrill gan ddeor ar y 13eg, y 14eg a’r 17eg o Fai. Ar y 18fed o Fehefin, modrwywyd y cywion gan ddefnyddio modrwyau Darfig gwyn unwaith eto. Benyw oedd Gwyn 90, gwryw oedd Gwyn YF, a benyw oedd y cyw ieuengaf hefyd, sef Gwyn 91. Ychydig ddyddiau ar ôl ei modrwyo, sylwyd bod modrwy BTO Gwyn 91 ar goll. Gadawodd y cywion eu nyth ar y 6ed, yr 8fed a’r 11eg o Orffennaf a gwelwyd YF a’r ceiliog am y tro olaf ar yr 2il o Fedi.

Ar y 18fed o Orffennaf 2012, glaniodd Gwyn 91 ar nyth gweilch y pysgod yn Loch of the Lowes yn yr Alban. Hwn oedd y tro cyntaf iddi gael ei gweld er pan welwyd hi ar ei nyth genedigol yn ardal Nantmor ar y 1af o Fedi 2009.

2010

Cyrhaeddodd y ceiliog ddiwrnod yn hwyrach na’r flwyddyn flaenorol. Dychwelodd ar yr 22ain o Fawrth, ac roedd yr iâr gydag ef fore trannoeth.  Fodd bynnag, aflonyddodd iâr estron ar y pâr ac ni ddodwywyd yr ŵy cyntaf tan 16 niwrnod yn ddiweddarach – y cyfnod hwyaf erioed i bâr Glaslyn. Daeth yr wyau ar yr 8fed, yr 11eg a’r 14eg o Ebrill a bu iddynt ddeor ar y 15fed, yr 17eg a’r 19eg o Fai.  Aethpwyd ati i fodrwyo ar yr 16eg o Fehefin, gan ddefnyddio modrwyau Darfig gwyn am y tro olaf.  Benywod oedd Gwyn 93 a Gwyn 92 ond gwryw oedd yr ieuengaf, sef Gwyn 94. Gadawodd y cywion ifanc eu nyth ar yr 8fed, y 9fed a’r 11eg o Orffennaf ac roedd pob un o’r gweilch wedi ffarwelio erbyn diwedd Awst.

Fis Medi, clywwyd bod M Trachsel wedi gweld ac wedi tynnu llun Gwyn 94 yng nghyffiniau Llyn Klingnau ger Zurich.

2011

Dyma’r flwyddyn y dychwelodd y ceiliog gynharaf i Ddyffryn Glaslyn. Gwnaeth hynny ar yr 16eg o Fawrth ond ni fu ar ei ben ei hun yn hir; roedd yr iâr hithau’n ôl ar yr 20fed. Hwn oedd ei dychweliad cynharaf hithau hefyd. Yn sgil y dychweliad cynnar, cafwyd y cofnod tymhorol cynharaf erioed o weilch y pysgod yn dodwy yng Ngwledydd Prydain. Dyddiad yr ŵy cyntaf y tro hwn oedd yr 2il o Ebrill, a daeth y ddau ŵy arall ar y 5ed a’r 8fed. Yna, ar yr 21ain o Ebrill, pan oedd y ceiliog i ffwrdd yn pysgota, ymunodd ceiliog arall â’r iâr gan gyflwyno pysgodyn iddi. Roedd y Safle Gwylio wrth Bont Croesor yn ferw gwyllt pan sylweddolwyd bod gan y ceiliog anghyfarwydd hwn fodrwy Darfig wen ar ei goes dde. Ar ôl closio i mewn, dangosodd y camera mai YC ydoedd, sef un o gywion 2008 a’r cyntaf o weilch Glaslyn i ddychwelyd i Gymru.

Fe wnaeth yr wyau ddeor ar y 9fed, yr 11eg a’r 14eg o Fai a chadarnhawyd mai’r cyw cyntaf o’r rhain oedd y cyw a anwyd gynharaf erioed i weilch y pysgod yng Ngwledydd Prydain. Modrwywyd y cywion ar yr 16eg o Fehefin a defnyddiwyd modrwyau Darfig glas am y tro cyntaf. Er y credid ar y pryd iddynt gael eu modrwyo yn nhrefn oedran, roedd peth amheuaeth ynghylch hyn. Roedd adenydd cyw Glas 77 (benyw) fymryn yn hwy nag adenydd cyw Glas 78 (gwryw) a chofnodwyd mai hi oedd y cyw hynaf. Roedd hyd adenydd cyw Glas 79 (y cyw ieuengaf a gwryw arall) yn llawer byrrach ond roedd ef fymryn yn drymach na Glas 78! Glas 78 oedd y cyntaf i fynd dros y nyth, sef ar yr 28ain o Fehefin, ac os mai ef oedd y cyw canol, 48 niwrnod oed ydoedd wrth adael y nyth. Aeth Glas 77 dros y nyth ar y 4ydd o Orffennaf a dilynwyd ef gan Glas 79 ar y 6ed o Orffennaf.  Tyfodd Glas 78 i fod yn annibynnol yn weddol gyflym a, hyd y gwyddom, ni welodd neb mohono ar ôl dechrau Awst. Arhosodd y ddau gyw arall yn yr ardal tan ddiwedd Awst.

Cafwyd newydd pwysig arall yn 2011; bellach nid gweilch Glaslyn mo’r unig weilch y gwyddid eu bod yn nythu yng Nghymru. Roedd iâr a anwyd yn Rutland yn 2008, sef Gwyn 03, wedi ymuno â’r ceiliog difodrwy a adwaenid fel Monty ac a fu’n defnyddio’r llwyfan nythu yng Nghors Dyfi ers o leiaf 2009.  Llwyddodd y pâr hwn i fagu tri o gywion. Yn ogystal â hynny, ymwelodd Gwyn YC â nyth Dyfi ar o leiaf ddau achlysur.